Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Hwb Ieuenctid x 2 (dyddiad cau: 19/12/25)

£25,583 - £25,989 pro rata y flwyddyn. Mae hon yn swydd ran-amser (15 awr yr wythnos) ac mae'n dros dro tan 31 Mawrth 2025. Ydych chi'n llawn cymhelliant, brwdfrydig a gwydn, rhywun sy'n chwilio am yrfa heriol gyda phwrpas? Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc 11 - 18 oed yn Abertawe?

Teitl y swydd: Gweithiwr Hwb Ieuenctid x 2
Rhif y swydd: SS.69887-V1
Cyflog: £25,583 - £25,989 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Hwb Ieuenctid (SS.69887-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 288 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.69887-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 19 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae Gwasanaeth Pobl Ifanc Abertawe, a elwir yn Evolve, yn rhedeg rhwydwaith o 5 Hwb Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc ledled Abertawe, gyda chyfleusterau yn ein Hwb Cymorth Cynnar y Gorllewin yng Ngorseinon, Hwb Cymorth Cynnar y Fali yn Stadwen, Hwb Cymorth Cynnar Townhill, Hwb Cymorth Cynnar y Dwyrain ym Mrynhyfryd a Hwb Cymorth Cynnar Penderi ym Mlaenymaes.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o swyddi gwag rhan amser (15 awr) ar draws gwahanol safleoedd, gan weithio gwaith gyda'r nos rheolaidd. Bydd ein hymgeiswyr delfrydol yn greadigol, hyderus ac yn gyfforddus wrth adeiladu perthnasoedd cryf a chadarnhaol â phobl ifanc trwy ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a hwyliog iddynt lle byddwch yn dylunio ac yn cyflwyno ystod o ddysgu anffurfiol, gweithgareddau, prosiectau a chyfleoedd ehangach yn y gymuned. Mae ein gwaith yn werth chweil iawn, yn heriol ac yn amrywiol.

Byddai'n fanteisiol os oes gennych brofiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc, boed hynny mewn lleoliad cyflogedig neu wirfoddol. 

Os ydych chi'n meddwl bod gennych y cymysgedd cywir o sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymhelliant i ymuno â'n tîm gwych yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, yn enwedig os gallwch gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, ac mae angen Datgeliad Cofnod Troseddol Gwell, gwiriad iechyd a geirda boddhaol ar gyfer y swyddi hyn. 

Mae croeso i chi gysylltu  â Paul Worsfold am sgwrs anffurfiol Paul.Worsfold@swansea.gov.uk neu 01792 470270.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2025