Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 22/12/25)
£46,142 - £50,269 pro rata y flwyddyn. Mae Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol Rhan-Amser Dros Dro (18.5 awr) wedi dod ar gael yn y Tîm Diogelu Oedolion, Tîm deinamig prysur mewn Gwasanaethau Oedolion, tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Teitl y swydd: Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.68450
Cyflog: £46,142 - £50,269 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (SS.68450-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 292 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.68450-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 22 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r Tîm Diogelu Oedolion yn dîm deinamig prysur. Mae'r Tîm yn delio ag Adroddiadau Oedolion mewn Perygl, gan gynnal ymholiadau Adran 126 yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan. Mae'r Tîm hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar faterion diogelu, yn mynychu Cyfarfodydd Diogelu Amlasiantaeth e.e. MAPPA a MARAC, yn ymgymryd â gwaith atal hunanladdiad ac yn eiriolwr brwd sy'n datblygu ffyrdd ataliol o gadw dinasyddion yn Abertawe yn ddiogel rhag niwed. Gan ddefnyddio dull cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y person, gall y Tîm Diogelu Oedolion ddarparu cyngor ac arweiniad cyson i Gydweithwyr, Dinasyddion Abertawe ac Asiantaethau Partner, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Byddech yn rhan o dîm bach, wedi'i gefnogi'n dda, gyda pherthnasoedd gwaith gwych ac enw da gydag Asiantaethau Partner. Mae'r Tîm Diogelu Oedolion yn mwynhau cyfarfodydd dal i fyny wythnosol, gan sicrhau bod eich lles bob amser ar frig yr agenda. Mae'r Tîm Diogelu Oedolion yn cynnal sesiynau grŵp cymheiriaid rheolaidd i drafod achosion a thrafod rhesymeg, er mwyn sicrhau ymagwedd symlach at y gwaith diogelu sy'n cael ei wneud. Mae hyn hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ymarfer myfyriol.
Mae gan y Tîm Diogelu Oedolion y fantais o'u Tîm Cymorth Busnes dynodedig eu hunain, sy'n sicrhau bod eich amser gwerthfawr yn cael ei ddefnyddio'n llawn yn briodol.
Mae'r rôl yn gyffrous ac amrywiol. Mae angen Gweithiwr Cymdeithasol cymwys tosturiol a gwybodus gyda 3 blynedd neu fwy o brofiad, gyda galluoedd ymgysylltu cyfathrebu rhagorol. Bydd angen dealltwriaeth drylwyr o'r ddeddfwriaeth a'r arfer gorau perthnasol. Mae ymrwymiad i hyrwyddo urddas, diogelwch a pharch at oedolion agored i niwed yn hanfodol. Mae'n ofynnol i chi ddangos sgiliau arwain cryf a'r gallu i reoli llwyth achosion diogelu cymhleth.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
