Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru bwyd ar gyfer masnachwyr ar y stryd

Os ydych yn gwerthu bwyd, mae angen i chi gofrestru'ch cerbyd teithiol gyda'r awdurdod lleol lle mae'r cerbyd yn cael ei gadw pan nad yw'n cael ei ddefnyddio.

Ar ôl cwblhau'r ffurflen, byddant yn gwneud trefniadau gyda chi i wirio'ch cerbyd masnachu i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Os ydych yn cyflwyno cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yn Abertawe ac am werthu bwyd, mae'n rhaid i chi ddarparu manylion yr awdurdod lleol rydych wedi cofrestru ag ef fel busnes bwyd.

Os ydy eich cerbyd masnachu wedi'i gadw yn Abertawe gallwch gofrestru eich busnes bwyd ar-lein. Nid oes ffi ar gyfer hyn. Unwaith y bydd y tîm bwyd wedi derbyn eich cais, bydd yn cysylltu â chi gyda chyngor am fusnesau newydd. Cynhelir archwiliad dirybudd o'ch mangre maes o law.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch y Tîm Bwyd ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith