Toglo gwelededd dewislen symudol

Diogelwch ac archwiliadau HMO

Rydym yn archwilio pob HMO cyn rhoi trwydded i sicrhau bod y tŷ yn ddiogel i'r deiliaid. Ar ôl ein harchwiliad cyntaf byddwn yn darparu amserlen o bethau y mae angen eu gwella cyn y gellir rhoi trwydded.

Ar ôl i chi dderbyn eich amserlen waith bydd angen i chi ddod o hyd i gontractwr addas i gyflawni'r newidiadau neu'r atgyweiriadau. Mae nodiadau ar gyfer perchnogion a chontractwyr ar gael yn ein nodiadau ymarfer ar gyfer cyfleusterau dianc rhag ofn y bydd tân. Dylid darllen y rhain ochr yn ochr â'ch amserlenni trwydded a ddaeth gyda'ch trwydded ddrafft. Os na fyddwch yn dilyn y canllaw hwn efallai na roddir trwydded i chi.

Pan fydd eich contractwr ar y safle, neu ar fin dechrau gweithio, dylent gysylltu â'r Tîm HMO trwy ffonio 01792 635600 neu e-bostio hph@abertawe.gov.uk.  Dylech hefyd gysylltu â'r tîm ar ôl gosod un drws tân a ffrâm i gadarnhau bod y drws yn bodloni'r safonau gofynnol.

Diogelwch trydanol

Rhaid i unrhyw waith trydanol gael ei wneud gan drydanwr sy'n gofrestredig naill ai gyda'r NICEIC neu'r ECA. Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, mae'n rhaid iddynt ddarparu tystysgrif prawf.

Mae canllaw'r landlordiaid ar ddiogelwch trydanol gan y Cyngor Diogelwch Trydanol yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i sicrhau bod eich HMO yn bodloni'r gofynion ar gyfer diogelwch trydanol.

Gwybodaeth am ddiogelwch tân i ddeiliaid

Rhaid i bob deiliad fod yn ymwybodol o'r mesurau rhagofalon tân sylfaenol. Gallwch lawrlwytho ein harferion tân a'u harddangos yn yr eiddo.

  1. Dylent ymgyfarwyddo â'r brif ffordd o ddianc.
  2. Ni ddylid defnyddio'r brif ffordd o ddianc ar gyfer storio ac ni ddylid ei rhwystro o gwbl.
  3. Peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain, yn enwedig mewn ystafelloedd â chyfarpar gwresogi neu goginio. Cadwch fatsis a thanwyr o'u gafael.
  4. Dylid osgoi defnyddio padellau sglodion os oes modd. Fodd bynnag, os defnyddir un, peidiwch byth â llenwi mwy na thraean ohoni a pheidiwch byth â'i gadael gyda'r gwres ymlaen heb neb i gadw llygad arni. Os bydd yn mynd ar dân, diffoddwch y gwres a'i mygu â blanced dân. PEIDIWCH â thaflu dŵr arni.
  5. Cadwch lygad ar yr henoed a phobl ddiamddiffyn eraill, yn enwedig o ran sigaréts, pibellau a blancedi trydan.
  6. Peidiwch â smygu yn y gwely. Sicrhewch fod bonion sigaréts a phibellau wedi'u diffodd yn llwyr cyn eu gadael.
  7. Peidiwch â defnyddio gwresogyddion cludadwy, na chaniatáu eu defnyddio, yn enwedig y rhai nwy neu baraffîn.
  8. Peidiwch â rhoi dillad golchi o flaen tanau i'w sychu.
  9. Cyn amser gwely:
  • diffoddwch yr holl offer trydanol
  • gwiriwch ar gyfer sigaréts neu bibellau sy'n llosgi
  • rhowch giard ar unrhyw dân agored
  • caewch ddrws pob ystafell: nid yw drysau tân yn gweithio os cânt eu gadael ar agor.

Nodiadau arfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân ar gyfer tai amlfeddiannaeth

Arweiniad i berchnogion a chontractwyr tai rhent preifat.
Close Dewis iaith