Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Eich rhent tai'r cyngor

Gwybodaeth am eich rhent i'r cyngor gan gynnwys ffyrdd o dalu a help os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu.

Mae swm y rhent yn dibynnu ar faint ac oedran eich cartref ac unrhyw wasanaethau mae eich cartref yn eu derbyn megis gofalwr, gwresogi, celfi ac yswiriant. Mae'n cynnwys cost darparu cartref i chi ac unrhyw atgyweiriadau i'w gynnal a'i gadw.

Rhaid talu'ch rhent yn wythnosol ar ddydd Llun. Gallwch dalu fesul pythefnos neu bob mis os yw hynny'n well gennych, ond rhaid ei dalu ymlaen llaw. Mae sawl gwahanol ffordd o dalu, ac os ydych yn gymwys, mae help ar gael.

Talu'ch rhent y cyngor ar-lein Talu'ch rhent y cyngor ar-lein

Ffyrdd o dalu rhent y cyngor

Mae sawl ffordd wahanol o dalu'ch rhent i'r cyngor.

Cymorth a chefnogaeth wrth dalu'ch rhent y cyngor

Os ydych chi'n cael trafferth wrth dalu'ch rhent, gallwch fod yn gymwys am gymorth.

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn talu rhent y cyngor?

Os na fyddwch wedi ein talu gelwir hyn yn ôl-ddyled. Os na fyddwch yn talu eich rhent, bydd eich ôl-ddyled yn cynyddu, felly mae'n well talu bob yn dipyn na pheidio â thalu o gwbl.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Gorffenaf 2021