Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn talu rhent y cyngor?

Os na fyddwch wedi ein talu gelwir hyn yn ôl-ddyled. Os na fyddwch yn talu eich rhent, bydd eich ôl-ddyled yn cynyddu, felly mae'n well talu bob yn dipyn na pheidio â thalu o gwbl.

Os nad ydych yn talu eich rhent, byddwch yn derbyn nifer o lythyrau i'ch atgoffa i dalu neu i gysylltu â ni, a bydd eich Swyddog Rhent hefyd yn ymweld â chi yn eich cartref i geisio eich helpu ac i lunio cytundeb gyda chi ar gyfer talu.

Os nad ydym yn derbyn ymateb i'r llythyrau hyn, byddwch yn derbyn 'Hysbysiad Ceisio Meddiant' sy'n para am gyfnod o 1 mis. Os nad ydych yn cysylltu â ni o hyd neu'n ceisio talu ychydig neu'ch holl ddyled o fewn y cyfnod hwn, gallwn wneud cais i'r llys am Orchymyn Adennill Meddiant.

Os bydd hyn yn digwydd bydd rhaid i chi fynd i'r llys ac o ganlyniad:

  • gallech gael eich gyrru o'ch cartref ac o bosib ni fydd rheidrwydd arnom ni i gynnig llety arall i chi
  • eich cyfrifoldeb chi fydd talu costau'r llys
  • bydd angen i chi dalu'ch ôl-ddyledion rhent i'r cyngor o hyd ac efallai byddwch yn ei chael hi'n anodd cael credyd gyda chatalogau neu fenthycwyr eraill
  • os ydych yn arwyddo cytundeb i dalu ôl-ddyled RHAID i chi gadw at y cytundeb. Os nad ydych yn medru talu, rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddog Rhentyn syth, cyn bod gofyn i chi dalu'r cyfanswm.

Gall eich cytundeb presennol barhau os ydych yn cysylltu â'ch Swyddog Rhent cyn y dyddiad talu yn unig.

Os na fyddwch yn dilyn y cytundeb (drwy fethu talu heb hysbysu eich Swyddog Rhent ymlaen llaw) bydd y cam nesaf yn eich erbyn yn cychwyn yn syth ac yn dileu unrhyw gytundeb blaenorol a'r llys fydd yn penderfynu'r cam nesaf.

Cofiwch gysylltu â'ch Swyddog Rhent am fwy o wybodaeth neu os ydych mewn trafferthion ariannol, gallwn gynnig cyngor ariannol i'ch cynorthwyo i reoli eich arian. Gallwn hefyd drefnu cytundeb ar eich rhan i dalu eich ôl-ddyled bob yn dipyn drwy ychwanegu swm bychan at eich rhent bob wythnos. Os nad ydych wedi cyflwyno cais am fudd-dâl tai dylech wneud hynny'n syth gan eich bod efallai yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol. Os ydych yn gyd-denant rhaid i chi gofio fod pob unigolyn yn gyfrifol am sicrhau fod y rhent wedi ei dalu.

Dim ond os bydd y sefyllfa wedi mynd i'r pen y byddwn yn ailfeddiannu'r ty.

Efallai ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnom i'ch ail-gartrefu os ydych yn cael eich troi allan.

Close Dewis iaith