Cymorth a chefnogaeth wrth dalu'ch rhent y cyngor
Os ydych chi'n cael trafferth wrth dalu'ch rhent, gallwch fod yn gymwys am gymorth.
Budd-dal Tai
Telir budd-dal tai i'r rheini ar incwm isel os ydynt yn gweithio ai peidio ac mae yno i'ch helpu i dalu'ch rhent.
Rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Tai.
Taliad Disgresiwn at Gostau Tai (TTD)
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol sy'n cynnwys elfen tai tuag at atebolrwydd rhentu, ond rydych dal yn ei chael hi'n anodd talu'ch rhent, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol drwy gyflwyno cais am TTD.
Gwasanaethau cymorth sydd ar gael gennym
Gwasanaethau cefnogi eraill a all fod o gymorth
Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot
Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.
Elusen Ddyled StepChange
Cyngor ar ddyled yn rhad ac am ddim ar-lein neu dros y ffon. Hefyd yn cynnig cyngor ar arian.
Llinell ddyled Genedlaethol
Cyngor am ddim ar ddyled ar-lein neu dros y ffon.
PayPlan
Help ar-lein am ddim a thros y ffon.
Helpwr Arian
Cyngor arian diduedd yn rhad ac am ddim. Cymorth dros y ffon ac ar-lein.
Turn2us
Mae Turn2Us yn elusen genedlaethol sy'n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth - ar-lein, dros y ffon.
MoneySavingExpert.com
Gwefan yw MoneySavingExpert.com sy'n ymroddedig i leihau eich biliau a brwydro ar eich rhan drwy ymchwil newyddiadurol ac offer ar-lein.
Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA)
Mae gwasanaeth cynghori Cartrefi Cynnes a Diogel NEA yn wasanaeth cymorth am ddim sy'n rhoi cyngor i ddeiliaid tai ar eu biliau ynni a chadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi. Gallant hefyd helpu gyda chyngor ar fudd-daliadau a manteisio i'r eithaf ar eich incwm.
Cyfiawnder Lloches
Yn cynnig cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim i geiswyr lloches, ffoaduriaid cydnabyddedig a mewnfudwyr eraill sy'n agored i niwed.
Independence at Home
Elusen yw Independence at Home sy'n darparu grantiau i bobl o bob oed a chandynt anabledd corfforol neu ddysgu neu salwch tymor hir sydd mewn angen ariannol.
Debt Advice Foundation
Cyngor cyfrinachol am ddim ac offer i helpu pobl i ddeall a rheoli eu harian.
The Money Charity
Yn darparu addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl o bob oedran er mwyn eu helpu i reoli eu harian yn well a gwella'u lles ariannol.
Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled
Mae cymorth a chyngor am ddim ar gael ar reoli'ch arian a'ch dyledion.
Undeb Credyd Celtic
Cwmni cydweithredol yw Undeb Credyd, sy'n darparu gwasanaethau ariannol syml a fforddiadwy i'w aelodau. Y bobl sy'n defnyddio'i wasanaethau sy'n berchen arno, nid rhanddeiliaid neu fuddsoddwyr allanol.
Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol
Eich helpu i ddeall, rheoli a gwella'ch iechyd meddwl a'ch problemau ariannol.
Llyfrgell Pethau Abertawe
Gallwch fenthyca eitemau defnyddiol sydd efallai eu hangen arnoch chi ar gyfer ambell dasg yn unig, yn hytrach na phrynu eitem newydd na chaiff ei defnyddio eto. Gall aelodau dalu ffi fach i fenthyca rhywbeth, ei ddefnyddio a'i ddychwelyd pan fyddant wedi gorffen ag e'.
Gamblers Anonymous UK
Dynion a menywod sy'n rhannu eu profiadau, eu cryfder a'u gobaith â'i gilydd fel y gallant ddatrys eu problem gyffredin a helpu eraill i wella ar ôl problemau gamblo. Sgwrs ar-lein am ddim.
Switched On - Hwb Hybu Ynni
Cefnogaeth a gwybodaeth annibynnol, ddiduedd ac am ddim i bawb ynghylch sut i wella'u heffeithlonrwydd ynni, newid darparwyr ynni a darparu mynediad at gymorth taliadau tanwydd (i'r rheini ar hawliau lles).
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 16 Medi 2021