Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiadau o anghenion gofalwr

Os ydych yn oedolyn sy'n darparu gofal i berthynas, partner neu ffrind, mae gennych hawl i gael asesiad o'ch anghenion eich hunain, p'un a yw'r person rydych yn gofalu amdano'n derbyn unrhyw wasanaethau gofal cymdeithasol ai pedio.

Mae llawer o ofalwyr yn derbyn Asesiad o Anghenion Gofalwyr ar yr un pryd ag asesiad o anghenion y person maent yn gofalu amdano/amdani. Ond gallwch ofyn am Asesiad o Anghenion Gofalwyr unrhyw bryd, hyd yn oed os nad yw'r person rydych yn gofalu amdano/amdani eisiau unrhyw gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu os ydynt yn derbyn cymorth yn barod.

Sgwrs ag aelod hyfforddedig o staff yw Asesiad o Anghenion Gofalwyr. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar eich anghenion a'ch pryderon chifel gofalwr,ac nid y person rydych yn gofalu amdano. Dylech ofyn unrhyw gwestiynau i ni a dweud wrthym os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.

I'r mwyafrif o ofalwyr, bydd y gefnogaeth a ddarperir yn cynnwys deall eu hanghenion drwy drafod eu rôl ofalu, a chyfeirio i wasanaethau gwybodaeth a chymunedol i'w helpu.

Sut mae'r asesiad yn gweithio?

Bydd aelod o staff hyfforddedig yn cwrdd â chi i siarad am sut rydych yn ymdopi â gofalu am y person rydych yn gofalu amdano/amdani.

Nid yw'r asesiad yn brawf i weld a ydych yn ei wneud yn ddigon da, ond cyfle i chi siarad am sut rydych yn teimlo a pha effaith mae gofalu yn ei chael ar eich bywyd.

Mae'r asesiad o anghenion gofalwr hefyd yn gyfle i chi ddarganfod a oes unrhyw gefnogaeth ar gael i'ch helpu yn eich rôl fel gofalwr.

Gall yr Asesiad ymdrin â'r canlynol:

  • Am faint o amser rydych wedi bod yn gofalu
  • Eich iechyd corfforol ac emosiynol presennol
  • Beth fyddai'n digwydd petaech yn sâl, neu petai unrhyw argyfwng arall
  • Faint o gymorth rydych yn ei dderbyn
  • Pa mor aml ydych yn cael neu ddim yn cael noson lawn o gwsg
  • Effaith gorfforol, emosiynol ac ymarferol eich rôl fel gofalwr
  • Unrhyw gyfrifoldebau eraill sydd gennych, fel plant dibynnol
  • Eich sefyllfa gyflogaeth neu a fyddech am weithio neu ymgymryd â hyfforddiant wrth barhau â'ch rôl fel gofalwr
  • Sut mae eich rôl fel gofalwr yn effeithio ar eich perthnasoedd eraill a'ch cyfeillgarwch
  • A oes gennych unrhyw amser 'rhydd' y tu allan i'ch rôl fel gofalwr, ac a oes gennych unrhyw amser am weithgareddau hamdden
  • Unrhyw ddyheadau eraill sydd gennych sy'n cael eu cyfyngu gan eich rôl ofalu.

Paratoi ar gyfer asesiad

Gallwch baratoi ar gyfer yr Asesiad o Anghenion Gofalwyr drwy feddwl am y math o gymorth a fyddai'n ei gwneud hi'n haws i chi ofalu neu barhau i ofalu. Efallai y bydd yn eich helpu i feddwl am y pethau rydych yn eu gwneud i helpu'r person rydych yn gofalu amdano, megis gwaith tŷ, ei helpu i fynd i'r baddon neu alw heibio i wirio ei fod yn ddiogel ac yn iach. Bydd hefyd yn eich helpu i feddwl am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar eich cyfrifoldebau dyddiol.

Gallwch ddweud wrthym ni sut rydych chi'n teimlo am y pethau rydych chi'n eu gwneud, ac a ydych yn eu cael yn anodd neu a ydynt yn eich rhoi dan straen o gwbl.

Ceir holiadur hunanasesu i ofalwyr a allai fod o gymorth i chi. Nid oes angen i chi gwblhau hwn cyn eich asesiad oni bai eich bod am wneud hynny:  Holiadur paratoi ar gyfer asesiad gofalwr (Word doc) [176KB]

Pam y dylwn i gael asesiad anghenion gofalwr?

Gallai'r asesiad o anghenion gofalwr:

  • ddarparu cyfle i siarad am faterion, ystyried eich anghenion eich hun a meddwl am gynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • darparu gwybodaeth am gymorth ymarferol, budd-daliadau, grantiau, grwpiau gofalwyr a gwasanaethau gwirfoddol.

Os yw'r person rydych yn gofalu amdano/amdani yn derbyn cymorth o'r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae'r Asesiad o Anghenion Gofalwr hefyd yn rhoi cyfle i chi nodi'r hyn y gallwch - a'r hyn na allwch - ei ddarparu fel rhan o'i gofal.

I siarad â ni am Asesiad Anghenion Gofalwr, cysylltwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Carers Trust

Elusen fawr ar gyfer gofalwyr yw Carers Trust sy'n gweithio gyda gofalwyr er lles gofalwyr.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Close Dewis iaith