Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nodiadau arweiniol ceisiadau hysbysiad adeiladu

Os ydych yn gwneud cais am reoliadau adeiladu dan y weithdrefn Hysbysiad Adeiladu, darllenwch y nodiadau arweiniol hyn.

1. Yr ymgeisydd yw'r person y gwneir y gwaith ar ei ran, er enghraifft perchennog yr adeilad.

2.1 Dylid cwblhau a chyflwyno un copi o'r hysbysiad hwn.

2.2 Ni ellir defnyddio hysbysiad adeiladu os bydd y gwaith yn adeilad newydd sy'n wynebu stryd breifat (priffordd sydd heb ei mabwysiadu) neu'n adeilad y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol iddo, sef pob math o adeilad ac eithrio anheddau un teulu neu addasiadau ac estyniadau i un o'r rhain.

3. Os bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys codi adeilad newydd neu estyniad, dylai'r hysbysiad hwn gyd-fynd ag un o'r canlynol:

  • cynllun bloc ar raddfa nad yw'n llai na 1:1250 sy'n dangos:
    • maint a safle'r adeilad, neu'r adeilad fel y'i hestynnir, a'i berthynas â'r ffiniau cyfagos
    • ffiniau cwrtil yr adeilad, neu'r adeilad fel y'i hestynnir, a maint, safle a defnydd pob adeilad neu adeilad arfaethedig arall o fewn y cwrtil hwnnw
    • lled a safle unrhyw stryd ar neu o fewn ffiniau cwrtil yr adeilad neu'r adeilad fel y'i hestynnir
    • y ddarpariaeth a wneir ar gyfer draenio'r adeilad neu'r estyniad.
  • os cynigir codi'r adeilad neu'r estyniad dros garthffos neu ddraen a ddangosir ar y map perthnasol o garthffosydd cyhoeddus, y rhagofalon a gymerir wrth adeiladu dros garthffos neu ddraen.

4. Os bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys gosod deunydd insiwleiddio yn waliau ceudod adeilad, bydd yr hysbysiad adeiladu hwn yn cyd-fynd â datganiad o ran y canlynol:

  • enw a math y deunydd insiwleiddio a ddefnyddir
  • a gymeradwyir y deunydd insiwleiddio gan y British Board of Agrément neu a yw'n cydymffurfio â manyleb Safonau Prydeinig ai peidio
  • a yw'r gosodwr yn berson sy'n destun Tystysgrif Cofrestru'r Sefydliad Safonau Prydeinig neu a yw ef wedi'i gymeradwyo gan y British Board of Agrément i osod y deunydd hwnnw.

5. Os bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys darparu system storio dŵr poeth heb awyrell, bydd yr hysbysiad yn cyd-fynd â datganiad o ran y canlynol:

  • enw, gwneuthuriad, model a math y system storio dŵr poeth a osodir
  • enw'r corff, os oes un ar gael, sydd wedi cymeradwyo neu ardystio bod y system yn gallu perfformio mewn ffordd sy'n bodloni gofynion Rhan G Atodlen 1 Rheoliadau Adeiladu 2010
  • enw'r corff, os oes un ar gael, sydd wedi cyflwyno unrhyw gerdyn adnabod gweithiwr cofrestredig presennol i osodwr neu osodwr arfaethedig y system

6. Mae'n rhaid i bobl sy'n gwneud gwaith adeiladu roi hysbysiad ysgrifenedig o ddechrau'r gwaith o leiaf ddau ddiwrnod ymlaen llaw

7. Bydd ffi'n daladwy fel arfer i gyfrannu at gost archwiliadau safle, sef un taliad sy'n cynnwys pob ymweliad angenrheidiol â'r safle nes i'r gwaith gael ei gwblhau'n foddhaol yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu.

8. Cyfrifir y ffi hysbysiad adeiladu yn unol â'r rheoliadau ffïoedd presennol a bydd yn daladwy ar adeg cyflwyno'r cais.  Mae nodyn arweiniol ar ffïoedd ar gael ar gais.

9. Yn amodol ar rai o ddarpariaethau penodol Deddf y Diwydiant Dŵr 1991, mae hawl gan berchnogion a deiliaid mangreoedd i'w ffosydd dŵr brwnt a dŵr wyneb a'u carthffosydd preifat gael eu cysylltu â'r carthffosydd cyhoeddus, lle bônt ar gael. Mae trefniadau arbennig yn berthnasol i ollyngiadau carthffrydau masnachol. Mae'n rhaid i bobl sydd am wneud y cysylltiadau hynny roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd i'r awdurdod priodol.

10. Arweiniad cyffredinol yn unig yw'r nodiadau hyn; ceir manylion ynghylch cyflwyno Hysbysiadau Adeiladu yn Rheoliad 12 a 13 Rheoliadau Adeiladu 2010 ac, o ran ffïoedd, yn Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdod Lleol) 2010.

11. Atgoffir pobl a gynigir i wneud gwaith adeiladu neu wneud newid sylweddol i ddefnydd ardal adeilad y gall fod angen caniatâd o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

12. Gellir cael rhagor o wybodaeth a chyngor ar y Rheoliadau Adeiladu a materion cynllunio gan y cyngor.

13. Bydd yr Hysbysiad Adeiladu hwn yn dod i ben o dair blynedd ar ôl iddo gael ei roi i'r awdurdod lleol oni bai fod gwaith wedi dechrau cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Close Dewis iaith