Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiadau adeiladu

Mae hysbysiadau adeiladu yn caniatáu i waith gael ei wneud heb yr angen i gyflwyno cynlluniau llawn. Maent yn addas ar gyfer gwaith bach ac yn caniatáu i chi ddechrau gwaith yn gyflym.

Gellir ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu domestig lle nad oes unrhyw garthffosydd. 

Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer siopau na swyddfeydd, na chodi adeilad newydd ar stryd breifat. Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ger carthfos nac ar ben carthffos.

Sut mae gwneud cais

Dylech ffonio Rheoli Adeiladu Abertawe ar 01792 635636 neu e-bostio rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk i gael dyfyniad cystadleuol. Mae gwybodaeth am sut i wneud taliad ar ein tudalen Ffioedd.

Dylech gyflwyno'r cais hysbysiad am waith adeiladu yn ogystal â'r ffi gywir o leiaf dau ddiwrnod cyn eich dyddiad dechrau arfaethedig. Mae'r hysbysiad adeiladu'n gymwys am dair blynedd i'r dyddiad hwn oni bai eich bod wedi dechrau ar y gwaith. 

Os ydych yn cyflwyno cynnig am adeilad newydd neu estyniad dylech gynnwys cynllun safle.

Gallwch wneud cais drwy:

  • anfon eich cais wedi'i gwblhau i rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk. Gallwch dalu dros y ffôn drwy ffonio 01792 635636.
  • ein ffonio ar 01792 635636 lle gallwn lenwi ffurflen ar eich rhan a chymryd taliad dros y ffôn.
  • postio'r cais wedi'i gwblhau i Rheoli Adeiladau Abertawe, neu ddod ag ef i'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig. Gallwch naill ai dalu dros y ffôn neu drwy siec.

Beth nesaf?

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen a'r tâl gywir gallwn ofyn am fanylion pellach gennych megis cyfrifiadau neu gynlluniau dylunio strwythurol. 

Pan fyddwch yn dechrau ar y gwaith, bydd angen i chi gysylltu â ni i roi gwybod i ni fod y gwaith wedi dechrau drwy ffonio 01792 635636. Bydd un o'n swyddogion yn arolygu'r gwaith wrth i'r gwaith adeiladu ddatblygu.Byddant yn dweud wrthych os nad yw'r gwaith yn bodloni rheoliadau adeiladu.

Darganfod pryd y byddwn yn arolygu'ch gwaith adeiladu Arolygu'ch gwaith adeiladu

Caniatâd cynllunio

Cofiwch, gall hefyd fod angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith. Os felly, bydd angen i chi wneud cais a derbyn caniatâd cyn i chi ddechrau ar y gwaith. Mae ffurflenni cais a gwybodaeth ar gael ar ein tudalennau Cynllunio a rheoli adeiladu.

Nodiadau arweiniol ceisiadau hysbysiad adeiladu

Os ydych yn gwneud cais am reoliadau adeiladu dan y weithdrefn Hysbysiad Adeiladu, darllenwch y nodiadau arweiniol hyn.
Close Dewis iaith