Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol
O £10.50 yr awr. Mae amrywiaeth o swyddi Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol ar gael ledled ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oedran (plant ac oedolion), cefndir a gallu.
Teitl y Swydd: Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol
Cyflog: O £10.50 yr awr.
Disgrifiad swydd:
Disgrifiad swydd Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol (PDF)
[368KB]
Dyddiad cau: parhaus
Mwy o wybodaeth
Mae unigolion yn dymuno penodi pobl ymroddgar a gweithgar a all helpu i wneud gwahaniaeth er gwell yn eu bywydau trwy eu cynorthwyo i fyw mor annibynnol ag y bo modd.
Pa un ai a ydych chi wedi gweithio'n flaenorol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, e.e. fel Gweithiwr Cynnal neu Gynorthwyydd Gofal, neu'n dymuno newid eich gyrfa yn llwyr, mae'r unigolyn yr ydym yn eu cefnogi yn credu fod gan bawb rywbeth i'w gynnig, ac maent yn credu mai sgiliau bywyd, y gwerthoedd a'r agweddau priodol, ac awydd dilys i'w helpu i newid eu bywyd, yw nodweddion pwysicaf cynorthwyydd personol.
Amdanoch Chi
- A allech chi wneud gwahaniaeth?
- A ydych chi'n mwynhau helpu pobl?
- A ydych chi'n cyfathrebu'n dda?
- A ydych chi'n ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb a darparu cymorth rhagorol?
A ydych chi'n fath o unigolyn a all:
- Ryngweithio a chyfathrebu'r â'r bobl y byddwch yn eu cefnogi mewn modd sy'n hybu annibyniaeth, urddas a pharch?
- Cynorthwyo pobl i fyw bywyd beunyddiol?
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe, "Diogelu yw Busnes Pawb" yw'r egwyddor, ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Mae bod yn Gynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol yn golygu mwy na chynorthwyo rhywun â'u gofal personol neu eu meddyginiaeth. Cyflogir llawer ohonynt i gynorthwyo pobl i fynd o gwmpas eu cymuned neu i helpu â thasgau gwaith tŷ a theithiau siopa. Yn anad dim, bydd Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol ar gael i gynorthwyo unigolion â'r hyn sy'n bwysig iddynt, a gall dyletswyddau hefyd gynnwys mynd allan i fwynhau prydau bwyd, mynd i'r sinema neu glybiau cymdeithasol, cynorthwyo â diddordebau megis garddio neu fynd i'r gampfa a llawer o weithgareddau cymdeithasol eraill.
Mae hon yn swydd werth chweil a all wneud gwahaniaeth mawr i fywyd unigolyn trwy eu helpu i gyflawni eu deilliannau a'u nodau unigol.
Caiff eich oriau a'ch dyletswyddau eu cytuno rhyngoch chi a'ch cyflogwr (yr unigolyn y byddwch yn ei gynorthwyo/chynorthwyo fel arfer), ac efallai bydd ef neu hi am i chi weithio sifftiau hyblyg, gan gynnwys rhai penwythnosau, gyda'r hwyr, ac ar wyliau banc. Gall hyn fod yn fuddiol os oes gennych chi ymrwymiadau eraill megis gofal plant, astudio, neu waith arall. Trafodir y gofynion penodol yn ystod y cyfweliad, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch paru â'ch blaenoriaethau cyn y cyfweliad.
Mae buddion bod yn Gynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys:
- Rôl werth chweil
- Gwaith amrywiol
- Oriau hyblyg
- Cyflog atyniadol - Byddwch chi a'ch cyflogwr yn cyd-drafod eich graddfa gyflog, ond gan amlaf, gallwch ddisgwyl cael £10.50 + yr awr.
- Hawl gwyliau
- Cyfleoedd i gael hyfforddiant
Cadarnhaol ynghylch cynhwysiant
Mae'r bobl rydym yn eu cefnogi yn gweld gwerth mewn amrywiaeth ac yn croesawu ceisiadau gan bawb.
Awydd ymgeisio am y swydd hon?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych yn dymuno trafod y swydd yn fanylach, cysylltwch â'r Tîm Byw yn Annibynnol.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gadarnhau pwy ydych chi a'ch bod yn gymwys i weithio yn y DU.
Hefyd, os nad oes gennych chi dystysgrif DBS gyfredol, neu os bydd eich cyflogwr am i chi adnewyddu gwiriad DBS, bydd Cyngor Abertawe yn ysgwyddo cost y gwiriad DBS. Bydd Cyngor Abertawe hefyd yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth DBS cludadwy, a bydd Cyngor Abertawe yn ysgwyddo cost hynny hefyd.
Os oes gennych chi dystysgrif DBS gyfredol, bydd agen i chi roi manylion dyddiad dyrannu'r dystysgrif, rhif y dystysgrif a'i dyddiad dod i ben i'ch cyflogwr.
Rydym yn gweithredu ar ran trydydd parti ac nid ni fydd eich cyflogwr ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw anawstera
FFURFLEN GAIS AM SWYDD (Word doc)
[64KB]
Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal (Word doc)
[29KB]