Toglo gwelededd dewislen symudol

Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled

Mae cymorth a chyngor am ddim ar gael ar reoli'ch arian a'ch dyledion.

Gall y sefydliadau hyn eich helpu trwy roi cyngor ariannol i chi, gan gynnwys cyngor a chymorth o ran pennu cyllideb. Gallant hefyd roi cyngor i chi hefyd os yw pobl yn ceisio gofyn am arian wrthoch. Os bydd angen i chi fenthyca arian, gallant hefyd roi cyngor ynghylch y lleoedd gorau i fenthyca arian.

Cyfiawnder Lloches

Yn cynnig cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim i geiswyr lloches, ffoaduriaid cydnabyddedig a mewnfudwyr eraill sy'n agored i niwed.

Cymorth a chefnogaeth wrth dalu'ch rhent y cyngor

Os ydych chi'n cael trafferth wrth dalu'ch rhent, gallwch fod yn gymwys am gymorth.

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.

Debt Advice Foundation

Cyngor cyfrinachol am ddim ac offer i helpu pobl i ddeall a rheoli eu harian.

Elusen Ddyled StepChange

Cyngor ar ddyled yn rhad ac am ddim ar-lein neu dros y ffon. Hefyd yn cynnig cyngor ar arian.

Gamblers Anonymous UK

Dynion a menywod sy'n rhannu eu profiadau, eu cryfder a'u gobaith â'i gilydd fel y gallant ddatrys eu problem gyffredin a helpu eraill i wella ar ôl problemau gamblo. Sgwrs ar-lein am ddim.

Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA)

Mae gwasanaeth cynghori Cartrefi Cynnes a Diogel NEA yn wasanaeth cymorth am ddim sy'n rhoi cyngor i ddeiliaid tai ar eu biliau ynni a chadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi. Gallant hefyd helpu gyda chyngor ar fudd-daliadau a manteisio i'r eithaf ar eich incwm.

Helpwr Arian

Cyngor arian diduedd yn rhad ac am ddim. Cymorth dros y ffon ac ar-lein.

Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol

Eich helpu i ddeall, rheoli a gwella'ch iechyd meddwl a'ch problemau ariannol.

Independence at Home

Elusen yw Independence at Home sy'n darparu grantiau i bobl o bob oed a chandynt anabledd corfforol neu ddysgu neu salwch tymor hir sydd mewn angen ariannol.

Llinell ddyled Genedlaethol

Cyngor am ddim ar ddyled ar-lein neu dros y ffon.

Llyfrgell Pethau Abertawe

Gallwch fenthyca eitemau defnyddiol sydd efallai eu hangen arnoch chi ar gyfer ambell dasg yn unig, yn hytrach na phrynu eitem newydd na chaiff ei defnyddio eto. Gall aelodau dalu ffi fach i fenthyca rhywbeth, ei ddefnyddio a'i ddychwelyd pan fyddant wedi gorffen ag e'.

MoneySavingExpert.com

Gwefan yw MoneySavingExpert.com sy'n ymroddedig i leihau eich biliau a brwydro ar eich rhan drwy ymchwil newyddiadurol ac offer ar-lein.

PayPlan

Help ar-lein am ddim a thros y ffon.

Switched On - Hwb Hybu Ynni

Cefnogaeth a gwybodaeth annibynnol, ddiduedd ac am ddim i bawb ynghylch sut i wella'u heffeithlonrwydd ynni, newid darparwyr ynni a darparu mynediad at gymorth taliadau tanwydd (i'r rheini ar hawliau lles).

The Money Charity

Yn darparu addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl o bob oedran er mwyn eu helpu i reoli eu harian yn well a gwella'u lles ariannol.

Turn2us

Mae Turn2Us yn elusen genedlaethol sy'n helpu pobl mewn caledi ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth - ar-lein, dros y ffon.

Undeb Credyd Celtic

Cwmni cydweithredol yw Undeb Credyd, sy'n darparu gwasanaethau ariannol syml a fforddiadwy i'w aelodau. Y bobl sy'n defnyddio'i wasanaethau sy'n berchen arno, nid rhanddeiliaid neu fuddsoddwyr allanol.
Close Dewis iaith