Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nodiadau arweiniol ar gyfer datganiad Adran 31(6)

Nodiadau arweiniol ar gyfer perchnogion tir sy'n bwriadu cyflwyno datganiad o dan Adran 31(6) o Ddeddf Priffyrdd 1980.

  1. Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar ddarpariaethau Adran 31 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980, ynghylch adneuo mapiau, datganiadau a datganiadau statudol gan berchnogion tir i nacáu'r bwriad i gyflwyno unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus neu hawliau tramwy cyhoeddus pellach ar eu daliadau tir.
  2. Mae Adran 31 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (gweler isod) yn caniatáu i berchennog tir adneuo mapiau, datganiadau a datganiadau statudol sy'n dangos unrhyw lwybrau ar draws ei dir y mae'n cydnabod eu bod yn hawliau tramwy cyhoeddus.
  3. Mae Adran 31 (6) yn galluogi perchnogion tir i adneuo map â graddfa nad yw'n llai na 1:10,000 (6" i un filltir) a datganiad sy'n dangos y llwybrau (os oes rhai) y maent yn cyfaddef eu bod wedi'u cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus.  Os ydyn nhw, o fewn deng mlynedd, yn adneuo datganiad statudol sy'n dweud nad oes unrhyw lwybrau ychwanegol wedi'u cyflwyno ers i'r map gael ei adneuo, mae hyn yn ddigonol, yn absenoldeb prawf i'r gwrthwyneb, i gadarnhau nad oes unrhyw lwybrau ychwanegol mewn gwirionedd wedi'u cyflwyno.  Gall y perchennog tir barhau i adneuo datganiadau tebyg bob deng mlynedd neu lai, gyda'r un effaith.
  4. Bwriedir i effaith adneuo map a datganiad, a datganiad yn ddiweddarach, o ddyddiad yr adneuo, wrthod unrhyw fwriad i gyflwyno a allai fel arall gael ei gyfleu neu ei ragdybio oherwydd defnydd gan y cyhoedd.  Mae rhoi datganiadau statudol bob deng mlynedd yn parhau i nacáu unrhyw fwriad a all godi fel arall.
  5. Ni fydd y datganiad yn cael unrhyw effaith wrth wadu bodolaeth hawliau tramwy cyhoeddus sydd eisoes wedi'u dangos ar y map diffiniol, neu y dangosir fel arall fod hawliau cyhoeddus yn perthyn iddynt, gan gynnwys cyflwyno tybiedig yn rhinwedd 20 mlynedd o'i ddefnyddio cyn i'r map a'r datganiad uchod gael eu hadneuo.

Datganiadau Statudol o dan Adran 31

Gweithdrefnau

Argymhellir eich bod chi (h.y. perchnogion tir) yn cymryd y camau canlynol wrth baratoi mapiau, datganiadau a datganiadau statudol o dan Adran 31 (6):

  1. Cael map diweddar neu gyfredol ar raddfa o 1:10,000 o'r ardal gyfan rydych yn berchen arni.
  2. Archwilio'r map a'r datganiad diffiniol a ddelir gan Gyngor Abertawe i ganfod pa hawliau tramwy cyhoeddus sydd eisoes wedi'u cofnodi dros eich tir, a'u hunion lwybrau. Dylai hyn osgoi'r angen i gywiro camgymeriadau ar ôl i'r map, y datganiad a'r datganiad statudol gael eu cyflwyno'n ffurfiol.
  3. Gall fod yn ddoeth gwneud y canlynol, er nad yw'n angenrheidiol: 
    1. gwirio statws unrhyw lwybrau, traciau, heolydd fferm neu lwybrau tarw ar eich tir i gael gwybod a yw'r cyhoedd wedi bod yn eu defnyddio am 20 mlynedd neu fwy;
    2. gwirio dogfennau cyfreithiol fel Dyfarniadau Cau Tir a all ddangos fod hawliau tramwy cyhoeddus eraill yn bodoli nad ydynt yn cael eu dangos ar y map diffiniol;
    3. edrych ar y rhestr o briffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n gyhoeddus a ddelir gan yr awdurdod priffyrdd o dan adran 36 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980 i nodi ffyrdd heb fetlin y gallent fod wedi'u cofnodi o hyd arni;
    4. ymgynghori â'r cyngor plwyf neu grwpiau defnyddwyr neu'r awdurdod tirfesur i weld a oes llwybrau eraill yn debygol o gael eu hawlio yr hoffech efallai eu cydnabod.
  4. Marcio'n ofalus ar y map union lwybr yr holl hawliau tramwy cyhoeddus a ddangosir ar y map diffiniol, neu fel arall yr ydych chi'n cydnabod eu bod yn bodoli.
  5. Ni ddylech geisio gwadu bodolaeth unrhyw hawl tramwy cyhoeddus a ddangosir ar y map diffiniol.  Fel mater o gyfraith, mae'r map diffiniol yn darparu tystiolaeth o fodolaeth a statws unrhyw hawl tramwy cyhoeddus a ddangosir arno nes bod y map yn cael ei newid gan orchymyn addasu map diffiniol ffurfiol.
  6. Wrth farcio'r map i'w adneuo gyda'r cyngor, ni ddylid dangos gwyriadau answyddogol; effaith y datganiad statudol fydd rhoi statws hawliau tramwy ar lwybrau o'r fath. Bydd y llwybr ar y map diffiniol yn aros yn hawl tramwy cyhoeddus, felly byddai llwybr dynodedig ychwanegol yn cael ei osod o fewn yr un daliad tir pe baech wedi dangos gwyriad anghofrestredig.
  7. Lluniwch y datganiad a'r datganiad statudol gan ddilyn y model. Sichrewch fod y dogfennau'n gywir. Dylid gwneud y datganiad yn gyntaf a'r datganiad statudol yn fuan wedi hynny'n ddelfrydol, ac yn bendant o fewn 10 mlynedd i adneuo'r map a'r datganiad. Efallai y byddwch yn dymuno ymgynghori â'ch cynrychiolydd cyfreithiol am gymorth wrth baratoi'r map a'r datganiad i ddechrau. Rhaid bod y Datganiad Statudol yn cael ei lofnodi gan Ustus Heddwch/Gomisiynydd Llwon/Gyfreithiwr yn unol â Deddf Datganiadau Statudol 1935.
  8. Cyflwynwch y datganiad gyda'r map a'r datganiad statudol i Gyngor Abertawe. Os nad ydynt wedi gwirio'r map yn flaenorol, efallai y byddant yn dymuno'i wirio yn erbyn y map diffiniol ac egluro unrhyw feysydd ansicrwydd.  Dylid cyflwyno mapiau pellach  gydag unrhyw ddatganiadau statudol dilynol yn ôl yr angen.
  9. Cadwch gopïau o fapiau, datganiadau a datganiadau statudol gyda'r gweithredoedd eiddo ar gyfer yr eiddo neu Dystysgrif Tir neu Arwystl er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
  10. Ar unrhyw lwybrau sy'n croesi'r tir na chyfaddefir eu bod yn hawliau tramwy cyhoeddus, gall fod yn ddefnyddiol gosod hysbysiadau i egluro nad ydynt yn hawliau tramwy cyhoeddus.

Darn o'r ddeddfwriaeth berthnasol o Ddeddf Priffyrdd 1980

Adran 31 - Cyflwyno llwybr fel priffordd ragdybiedig wedi iddo gael ei ddefnyddio gan y cyhoedd am gyfnod o 20 mlynedd.

(6) Gall perchennog tir, ar unrhyw adeg, adneuo'r canlynol â'r cyngor priodol:

(a) map o'r tir, a

(b) datganiad sy'n dangos pa lwybrau (os oes unrhyw rai) dros y tir y mae'n cyfaddef eu bod wedi'u cyflwyno fel priffyrdd;

ac, mewn unrhyw achos lle gwnaethpwyd y fath adneuad, ddatganiadau ar ffurf ddilys a wnaed gan y perchennog hwnnw neu gan ei olynwyr yn y teitl, ac a gyflwynwyd ganddo ef neu ganddynt hwy i'r cyngor priodol ar unrhyw adeg:

(i) o fewn 10 mlynedd o ddyddiad yr adneuo, neu

(ii) o fewn 10 mlynedd o'r dyddiad y cyflwynwyd unrhyw ddatganiad blaenorol ddiwethaf o dan yr adran hon.

i'r perwyl nad oes unrhyw lwybr ychwanegol (heblaw am unrhyw un a nodwyd yn benodol yn y datganiad) dros y tir a ddarlunnir ar y map dan sylw wedi'i gyflwyno fel priffordd ers dyddiad yr adneuad, neu ers dyddiad cyflwyno datganiad blaenorol o'r fath, yn ôl rhaid, yn absenoldeb tystiolaeth o fwriad i'r gwrthwyneb, tystiolaeth ddigonol i nacáu bwriad y perchennog neu ei olynwyr yn ôl teitl i gyflwyno unrhyw lwybr ychwanegol o'r fath fel priffordd.

(6B) Lle bo'r tir yng Nghymru:

(a) rhaid bod map a adneuwyd o dan is-adran (6) (a) ar raddfa nad yw'n llai na 6 modfedd i 1 filltir,

(b) mae datganiad ar ffurf ddilys at ddibenion is-adran (6) os ydyw'n ddatganiad statudol, a,

(c) y nifer perthnasol o flynyddoedd ar gyfer dibenion is-baragraffau (i) a (ii) o is-adran (6) yw 10 mlynedd.

Cyflwyno datganiad Adran 31 (6) Cyflwyno datganiad Adran 31 (6)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Ebrill 2025