Toglo gwelededd dewislen symudol

Newidiadau i'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Gwneir unrhyw newidiadau i Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy orchymyn Hawliau Tramwy Cyhoeddus cyfreithiol.

Newidiadau parhaol

Gall perchnogion tir a datblygwyr gyflwyno ceisiadau i wneud y newidiadau canlynol i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus:

  1. Dargyfeiriad - ailgyfeirio llwybr troed neu lwybr ceffyl er budd y cyhoedd a pherchnogion tir/deiliaid.
  2. Creu - ychwanegu llwybr newydd at y rhwydwaith, fel arfer gyda chytundeb y perchennog tir (ni yw'r cais hwn ar gael ar hyn o bryd)
  3. Diddymu - cau llwybr troed neu lwybr ceffyl yn barhaol. Gall perchennog tir gyflwyno cais am hyn neu gall y cyngor ei gychwyn. Mae diddymiadau'n brin iawn.

Gall y cyngor hefyd greu llwybrau newydd, fel arfer gyda chydsyniad perchennog y tir.

Gall unrhyw un gyflwyno ceisiadau i wneud y mathau canlynol o newid, a dylid eu seilio ar dystiolaeth sy'n awgrymu bod angen y newid:

  1. Addasu - mae hyn fel arfer yn cynnwys ychwanegu llwybrau at y rhwydwaith oherwydd nad yw llwybr cerdded neu lwybr ceffyl ar y Map Diffiniol ond mae tystiolaeth yn awgrymu y dylai fod. Fodd bynnag, gellir gwneud addasiadau hefyd i newid neu ddileu llwybrau cerdded neu lwybrau ceffyl o'r Map Diffiniol.

Newidiadau dros dro

Gall hawliau tramwy gau dros dro i ddiogelu defnyddwyr pan fydd gwaith yn mynd rhagddo yng nghyffiniau'r llwybr neu'n dilyn difrod i'r arwyneb. Mae perchnogion tir fel arfer yn cyflwyno cais ar eu cyfer. Gall y gorchmynion hyn barhau am hyd at chwe mis a gellir eu hehangu ymhellach yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru. Sicrheir bod llwybrau amgen fel arfer ar gael yn ystod y cyfnodau cau hyn. 

Cyflwyno cais i wneud newid parhaol i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus

Y cam cyntaf i wneud newid i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yw cyflwyno cais sy'n seiliedig ar ba fath o newid hoffech chi ei wneud.

Cau llwybrau troed dros dro

Cau llwybrau troed dros dro ar gyfer gwaith ffordd neu er mwyn osgoi perygl i'r cyhoedd.

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus presennol

Rhestr o orchmynion llwybrau cyhoeddus presennol ar gyfer newid i hawliau tramwy cyhoeddus.

Cofrestr adran 53B

Cofrestr o'r holl geisiadau i addasu'r map swyddogol a'r datganiad o dan Adran 53(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Cofrestr adran 31A

O dan adran 31(6) o Ddeddf Priffyrdd 1980, gall perchnogion tir gyflwyno mynegiadau a datganiadau i ni i gydnabod hawliau tramwy cyhoeddus ar draws eu tir a datgan nad oes ganddynt unrhyw fwriad i gyflwyno unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus pellach bryd hynny.
Close Dewis iaith