Arweiniad i fod yn yrrwr tacsi
Os ydych am ddod yn yrrwr tacsi yn Abertawe, edrychwch ar ein canllaw i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.
I ddod yn yrrwr tacsi bydd angen i chi:
- basio prawf llythrennedd a rhifedd Saesneg sylfaenol (bydd y rhain yn cael eu cwblhau ar yr un pryd â'ch prawf gwybodaeth)
- pasio prawf gwybodaeth (bydd pob ymgais yn costio £29)
- meddu ar yr hawl i weithio yn y DU. Gellir cynnal gwiriadau gyda'r Swyddfa Gartref
- llenwi ffurflen gais. Mae ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho ar ein tudalen Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat. Mae'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y profion a gwybodaeth ychwanegol y bydd angen i chi ei rhoi i ni. Os yw'n well gennych, gallwch godi pecyn o'r Ganolfan Ddinesig
Beth sydd angen i mi ei wneud yn gyntaf?
- lawrlwythwch a darllenwch y pecyn cais (PDF, 2 MB) i gael gwybodaeth am y broses a'r manylion i'w hastudio ar gyfer y prawf gwybodaeth
- trefnu apwyntiad i sefyll Prawf Gwybodaeth drwy ebostio TrwyddeduTacsis@abertawe.gov.uk
- byddwch yn derbyn galwad ffôn i gymryd taliad cyn bod eich dyddiad prawf yn cael ei roi i chi. Os byddwch yn sefyll eich prawf fwy nag unwaith bydd angen i chi dalu bob tro
- Pan fyddwch wedi llwyddo yn y prawf gwybodaeth, byddwch yn derbyn tystysgrif sy'n ddilys am 12 mis
- trefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i gynnal prawf meddygol i safonau meddygol Grŵp 2. Cofiwch y bydd y dystysgrif gan eich meddyg teulu yn ddilys am 28 niwrnod yn unig
- os oes angen tystysgrif ymddygiad da arnoch, dylech hefyd gyflwyno cais am hon nawr
- pan fydd yr holl ddogfennau dilys wedi'u derbyn (a amlinellir yn y pecyn cais), byddwch yn barod i wneud cais am drwydded yrru cerbyd hacni a gyrwyr hurio preifat a'ch cais GDG. Bydd angen i chi wneud apwyntiad penodol i gyflwyno'r cais hwn drwy ffonio'r llinell apwyntiadau ar 01792 636098.
- os caniateir y cais bydd angen i chi dalu ffi'r drwydded yn unol â chyfarwyddyd
Fel rhan o'r cais bydd hefyd angen i chi gyflwyno:
1. Trwydded Yrru DVLA.
- rhaid eich bod wedi meddu ar drwydded yrru lawn am o leiaf 12 mis.
- rhaid iddi ddangos eich cyfeiriad preswylio cyfredol
- rhaid bod y drwydded cerdyn llun o fewn ei dyddiad
- côd "rhannu fy nhrwydded yrru" (y gellir ei wneud pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais)
2. Ffurflen feddygol Grŵp 2
Mae'r ffurflen hon ar gael ar y dudalen Gyrwyr - cerbydau hacni a hurio preifat. Rhaid i'ch meddyg teulu gwblhau'r ffurflen hon. Codir tâl am gwblhau'r ffurflen a chi sy'n gyfrifol am dalu'r gost. Mae'r gost yn amrywio yn dibynnu ar y feddygfa.
3. Datgeliad GDG manwl.
Fel rhan o'r cais, bydd hefyd angen dau wiriad GDG manwl.
Cysylltwch â'n hadran GDG ar 01792 636098 a dewiswch opsiwn 3 i drefnu apwyntiad GDG ac i gael enw defnyddiwr a chyfrinair.
Mae desg gymorth y Gwasanaeth GDG ar agor ar gyfer ceisiadau GDG rhwng 10.30am a 1.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae angen i chi wneud cais am 2 dystysgrif GDG fanwl yn benodol ar gyfer Gweithlu Arall - gyrrwr tacsis - trwydded ac Ysgolion Arbennig (gyda disgyblion dros 18 oed a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol). Rhaid bod gan Yrwyr Trafnidiaeth y teitl swydd 'Gyrrwr Tacsi - Gwaith Contract' a rhaid bod ganddynt wiriad GDG manwl y GWEITHLU PLANT AC OEDOLION a gwiriad o'r rhestr wahardd (plant) yn unig.
Bydd angen talu ffi o £111.00 ar gyfer y ddau GDG i'r uned GDG, sy'n daladwy drwy gerdyn credyd neu debyd dros y ffôn.
Ar ôl i chi dderbyn eich tystysgrifau GDG, gallwch anfon lluniau clir ohonynt wedi'u sganio drwy e-bost i TrwyddeduTacsis@abertawe.gov.uk
4. Prawf bod gennych ganiatâd i fyw a gweithio'n gyfreithlon yn y DU.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos prawf bod ganddo ganiatâd i fyw a gweithio'n gyfreithlon yn y DU, waeth beth fo'i genedligrwydd. Bydd angen i chi ddarparu eich pasbort; neu dystysgrif geni lawn y DU ynghyd â dogfen CThEM sy'n nodi eich rhif Yswiriant Gwladol neu hawlen breswylio fiometrig. Os nad oes gennych unrhyw un o'r dogfennau a grybwyllir, bydd angen i chi gysylltu â Swyddog Trwyddedu i siarad am eich cais ar 01792 635600.
5. Lluniau pasbort
- rhaid i'r llun fod o'r ymgeisydd
- rhaid i'r ymgeisydd wynebu ymlaen ac edrych yn syth ar y camera yn agos at ei wyneb, ei ben a'i ysgwyddau, gydag uchder pen argymelledig (y pellter rhwng gwaelod yr ên a thop y pen) rhwng 29 a 34 milimetr
- gyda mynegiant niwtral a'r geg ar gau (dim gwenu, gwgu na chodi aeliau
- gyda'i lygaid yn agored ac yn weladwy, dim sbectol haul na sbectol wedi'i thywyllu a dim gwallt ar draws y llygaid)
- dim adlewyrchiadau neu lacharedd ar y sbectol a ni ddylai'r fframiau orchuddio'r llygaid. Os yw'n bosib, rydym yn argymell bod sbectol yn cael eu tynnu ar gyfer y llun
- dangos ei ben llawn, heb unrhyw orchudd pen oni bai ei fod yn gwisgo un oherwydd gredoau crefyddol neu resymau meddygol
- heb unrhyw wrthrychau na phobl eraill yn y llun
- heb gysgodion ar y llun
- heb unrhyw beth yn gorchuddio'r wyneb. Ni ddylai unrhyw beth orchuddio amlinelliad y llygaid, y trwyn na'r geg, na dangos unrhyw lygad coch
Mae angen i'r llun:
- fod yn faint llun pasbort safonol y DU a dynnwyd mewn bwth neu stiwdio, 45 milimetr o uchder x 35 milimetr o led, a heb ei dorri o ffotograff mwy i faint llun pasbort safonol
Rhaid i ansawdd y llun:
- fod wedi'i dynnu yn erbyn cefndir hufen plaen neu gefndir llwyd golau plaen
- cael ei argraffu i ansawdd uchel, fel lluniau wedi'u hargraffu gan fwth neu stiwdio (mae ffotograffau a argraffwyd gartref yn annhebygol o fod o ansawdd digon uchel)
- bod yn glir ac mewn ffocws
- bod wedi'i dynnu o fewn y mis diwethaf
- bod mewn lliw, ar bapur ffotograffig gwyn plaen, heb ei rwygo, ei grychu na'i farcio a heb unrhyw ysgrifen ar y tu blaen neu'r cefn - ac eithrio pan fydd angen ardystio un o'r lluniau
6.Talu am y drwydded a'r bathodyn
Cost trwydded a bathodyn yw £236 (nid yw hyn yn cynnwys y Prawf Gwybodaeth na ffi'r cais GDG). Bydd y drwydded a'r bathodyn yn ddilys am3 blynedd. (Mewn ambell achos, rhoddir trwyddedau am gyfnod byrrach a bydd ffi lai yn berthnasol.)
Sut i ddod o hyd i ni
Rydym yn y Ganolfan Ddinesig. Mae staff trwyddedu tacsis ar gael yn ystod oriau gwaith arferol yn unig (8.30am tan 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am tan 4.30pm ar ddydd Gwener). Fe'ch cynghorir i wneud apwyntiad, felly ffoniwch 01792 635600 i drefnu hyn.