Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiad o Les Lleol 2022

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi paratoi ei ail Asesiad o Les Lleol.

Prif ddiben yr asesiad yw helpu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i nodi nifer o amcanion lles a fydd yn cyfrannu at y nodau lles cenedlaethol a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  

Casglwyd y dystiolaeth yn y ddogfen hon gan dîm o swyddogion o sefydliadau partner Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.  Defnyddir y sylfaen dystiolaeth hon i ddatblygu Cynllun Lles Lleol Abertawe.

Mae'r asesiad hwn yn edrych ar nifer o agweddau gwahanol ar les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn Abertawe.  

Daeth yr ymgynghoriad ar yr asesiad drafft i ben ddydd Gwener 18 Mawrth 2022. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r rheini a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad a chwblhau ein harolwg. Mae'r adborth wedi'i ystyried a'i ddefnyddio i baratoi fersiwn derfynol o'r asesiad i'w gyhoeddi ym mis Mai 2022.

Mae Asesiad 2022 (PDF, 4 MB) ar gael i'w weld neu ei lawrlwytho ar y dudalen hon. 

Mae dogfen crynhoi (PDF, 575 KB) fyrrach ar gael hefyd sy'n tynnu sylw at y materion allweddol a nodwyd yn yr asesiad. 

Mae nifer o atodiadau a dogfennau ategol y cyfeiriwyd atynt yn y prif asesiad hefyd ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho:

Atodiad 1 Ymgysylltu ac Arolygu (PDF, 1 MB)

Atodiad 2 Adroddiad Adborth Ymgynghori (PDF, 1 MB)

Atodiad 3 Ynglyn a'r Asesiad (PDF, 696 KB)

Atodiad 4 Ardaloedd Cymunedol yn Abertawe (PDF, 1 MB)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, sylwadau neu awgrymiadau pellach am yr asesiad, cysylltwch â:  BGCabertawe@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Tachwedd 2022