Asesiad o Les Lleol 2017
Prif nod yr asesiad hwn yw cyfeirio'r Cynllun Lles ar gyfer Abertawe.
Y ddogfen hon yw dechrau sgwrs am les yn Abertawe.
Wrth wraidd yr asesiad hwn mae 19 o agweddau gwahanol ar les yn Abertawe.
Bydd yr asesiad yn helpu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i nodi nifer bach o amcanion lles. Bydd y rhain wedyn yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Lles a bydd asiantaethau yn Abertawe yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â'r rhain.
Gellir lawrlwytho'r Asesiad Lles ar waelod y dudalen hon, ynghyd â'i ddogfennau cefnogol.
Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys fersiwn gryno (PDF) [902KB] o Asesiad 2017 sy'n amlygu'r crynodebau ymchwil a'r sgorau ar gyfer yr ysgogwyr cynradd o fewn bob canlyniad. Hefyd, mae dogfen Diweddariad 2018 (PDF) [666KB] yn cyflwyno amlinelliad o gynnydd pellach neu ymateb gan y bwrdd i'r cynigion a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar Asesiad 2017.