Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiad o lety sipsiwn a theithwyr 2022

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gyflawni asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n preswylio yn ei ardal neu'n cyrchu yno, a gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd lle mae'r asesiad yn canfod angen nad yw wedi'i ddiwallu am leiniau cartrefi symudol.

Nod yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr hwn yw canfod faint o safleoedd a lleiniau sydd eu hangen ar Sipsiwn a Theithwyr a Siewmyn ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Asesiad o lety sipsiwn a theithwyr 2022 (Word doc) [621KB]

Polisi Sipsiwn a Theithwyr

Mae ein Polisi Sipsiwn a Theithwyr yn rhoi cyfle cyfartal i deuluoedd gael mynediad i wasanaethau a ddarperir gan y cyngor ac eraill.

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol

Mae Abertawe'n Ddinas Hawliau Dynol. Dyma'r tro cyntaf i ni gyfuno'n Cynllun Cydraddoldeb Strategol â'n hymrwymiadau Hawliau Dynol. Bydd y cynllun yn amlinellu sut byddwn yn parhau i fodloni'n hymrwymiadau i hawliau dynol a chydraddoldeb, a sut byddwn yn bodloni'n rhwymedigaethau cyfreithiol o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Awst 2024