Toglo gwelededd dewislen symudol

Atal cilfach barcio

Gallwch gyflwyno cais i atal cilfach breswylwyr, cilfach defnydd a rennir, cilfach talu ac arddangos neu gilfach arhosiad cyfyngedig.

Sylwer: mae'r ceisiadau hyn ar gyfer cilfachau parcio yn unig. Mae'n rhaid i unrhyw geisiadau sy'n effeithio ar y briffordd gael eu cwblhau yn: Ceisiadau priffyrdd a thrwyddedau

Pam y byddai angen i chi wneud hyn

Gall cael gwared ar gyfyngiadau am amser cyfyngedig helpu llif y traffig neu wneud lleoliad yn fwy diogel i'r cyhoedd yn yr amgylchiadau canlynol:

  • os oes gwaith adeiladu (er enghraifft dymchweliad neu gloddiad) yn mynd rhagddo ger y lleoliad:
    • i sicrhau bod lle i osod sgip neu i dderbyn danfoniad i ardal y mae ceir yn parcio ynddi fel arfer
    • fel y gall cerbyd sy'n cynnwys cyfarpar angenrheidiol barcio'n agos at y safle
  • mae angen cael gwared ar gyfyngiadau er mwyn gwneud gwaith symud domestig / tŷ
  • ar gyfer priodas, angladd neu ddigwyddiad arbennig arall
  • at ddibenion ffilmio

Cost

Y gost yw £10 y dydd fesul cilfach, yn ogystal â ffi weinyddol o £15.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw'r gost a sut i dalu ar ôl i'r cais a gyflwynwyd gennych gael ei gymeradwyo.

Ar ôl i chi gyflwyno cais

Bydd ein penderfyniad yn dibynnu ar y canlynol:

  • pam yr hoffech roi cyfyngiad ar waith yn yr ardal, ac
  • ym mhle yr hoffech i'r cyfyngiad fod

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 niwrnod gwaith i gadarnhau a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

Byddwn yn argraffu hysbysiadau ac yn eu harddangos ger y gilfach barcio/cilfachau parcio dan sylw er mwyn rhoi gwybod i eraill am y newid dros dro i'r cyfyngiadau. Bydd angen i chi ddarparu rhif cofrestru cerbyd pob cerbyd sy'n debygol o ddefnyddio'r gilfach/cilfachau a ataliwyd yn ystod y cyfnod. Chi sy'n gyfrifol am rwystro'r gilfach barcio/cilfachau parcio a ataliwyd yn ddiogel er mwyn atal unrhyw un arall rhag ei defnyddio/eu defnyddio.

Cyflwyno cais i atal cilfach barcio Cyflwyno cais i atal cilfach barcio

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Chwefror 2025