Atgyweiriadau brys i dai cyngor
Mae ein gwasanaeth atgyweirio brys yn ymdrin ag atgyweiriadau brys sy'n angenrheidiol i'ch gwneud chi'n ddiogel.
Efallai bydd angen mwy o waith i gwblhau'r atgyweiriadau a bydd apwyntiad dilynol yn cael ei drefnu.
Ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys, cwblhewch y ffurflen gwneud cais am atgyweiriad tai.
Beth sy'n cael ei ystyried fel argyfwng?
- pibellau, ffitiadau neu danciau dŵr sydd wedi rhwygo neu sy'n gollwng
- gorlifo rhwng adeiladau
- draeniau wedi'u rhwystro lle mae carthion yn arllwys allan
- tŷ bach neu bibell garthfos wedi'i rhwystro neu sy'n gollwng (lle nad oes tŷ bach arall yn yr eiddo)
- gwifrau trydan noeth
- colled lwyr trydan, dŵr neu nwy
- methiant llwyr y system gwres canolog (rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth). Bydd unrhyw alwadau ffôn ynglŷn â gwres canolog a dderbynnir ar ôl 10.00pm yn cael ymateb y diwrnod nesaf. Er hyn, os yw'r diffygion yn risg arwyddocaol i iechyd a diogelwch, byddwn yn ymateb iddynt cyn gynted â phosib
- diogelu ffenestri a drysau allanol
Yn ystod oriau swyddfa: 01792 635100
Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm a dydd Gwener 8.30am - 4.30pm
Yn ystod oriau y tu allan i oriau swyddfa: 01792 521500
Dydd Llun i ddydd Iau 5.00pm - 8.30am
Dydd Gwener 4.30pm i ddydd Llun 8.30am
Rhifau ffôn argyfwng eraill
Gwasanaethau brys os oes risg i fywyd (heddlu, tân, ambiwlans): 999
Gollyngiadau nwy: 0800 111999
Methiant pŵer: 0800 052 0400