Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am atgyweiriad i'ch tŷ cyngor

Gallwch ofyn am atgyweiriad i'ch cartref drwy ein ffurflen ar-lein.

Gallwch hefyd wneud cais am atgyweiriad drwy eich cyfrif Fy Nhai.

Rhowch gymaint o wybodaeth ag y bo modd i'n galluogi i brosesu'ch cais yn effeithiol.

Diweddariadau am eich atgyweiriad: byddwch yn derbyn dau hysbysiad ar ffurf neges destun - un pan fydd y dasg wedi'i chofnodi ac yna neges i'ch atgoffa'r diwrnod cyn y disgwylir i'r atgyweiriad gael ei wneud. Hysbysiadau yn unig yw'r negeseuon hyn, ni fydd angen i chi ymateb ac ni fyddwn byth yn gofyn i chi ateb a rhoi unrhyw fanylion pellach drwy'r negeseuon testun hyn. 

Ar ôl i ni wneud gwaith atgyweirio i'ch cartref byddwn yn anfon arolwg byr atoch trwy neges destun neu e-bost (yn dibynnu ar y dull cyswllt sydd orau gennych) fel y gallwch roi gwybod i ni beth yw'ch barn am y gwasanaeth. Bydd hyn yn ein helpu i wneud gwelliannau yn y dyfodol.

Gallwch gael mwy o fanylion am sut i roi gwybod am argyfwng ar ein tudalen atgyweiriadau mewn argyfwng.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mehefin 2024