Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Atgyweiriadau brys i dai cyngor

Mae ein gwasanaeth atgyweirio brys yn ymdrin ag atgyweiriadau brys sy'n angenrheidiol i'ch gwneud chi'n ddiogel.

Efallai bydd angen mwy o waith i gwblhau'r atgyweiriadau a bydd apwyntiad dilynol yn cael ei drefnu.

Ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys, cwblhewch y ffurflen gwneud cais am atgyweiriad tai.

Beth sy'n cael ei ystyried fel argyfwng?

  • pibellau, ffitiadau neu danciau dŵr sydd wedi rhwygo neu sy'n gollwng
  • gorlifo rhwng adeiladau
  • draeniau wedi'u rhwystro lle mae carthion yn arllwys allan
  • tŷ bach neu bibell garthfos wedi'i rhwystro neu sy'n gollwng (lle nad oes tŷ bach arall yn yr eiddo)
  • gwifrau trydan noeth
  • colled lwyr trydan, dŵr neu nwy
  • methiant llwyr y system gwres canolog (rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth). Bydd unrhyw alwadau ffôn ynglŷn â gwres canolog a dderbynnir ar ôl 10.00pm yn cael ymateb y diwrnod nesaf. Er hyn, os yw'r diffygion yn risg arwyddocaol i iechyd a diogelwch, byddwn yn ymateb iddynt cyn gynted â phosib
  • diogelu ffenestri a drysau allanol

Yn ystod oriau swyddfa: 01792 635100
Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5.00pm a dydd Gwener 8.30am - 4.30pm

Yn ystod oriau y tu allan i oriau swyddfa: 01792 521500
Dydd Llun i ddydd Iau 5.00pm - 8.30am
Dydd Gwener 4.30pm i ddydd Llun 8.30am

 

Rhifau ffôn argyfwng eraill

Gwasanaethau brys os oes risg i fywyd (heddlu, tân, ambiwlans): 999
Gollyngiadau nwy: 0800 111999
Methiant pŵer: 0800 052 0400

Close Dewis iaith