Toglo gwelededd dewislen symudol

Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) - Cefnogaeth yn yr ysgol

Gall ysgol eich plentyn reoli amrywiaeth eang o anghenion.

Siaradwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) eich ysgol, a fydd yn gallu'ch cynghori ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael.

Weithiau, cynhelir cyfarfod fel bod pawb yn deall cryfderau ac anghenion eich plentyn, a'r mesurau y gellir eu rhoi ar waith i'w gefnogi gyda:

1. sylw a gwrando

2. cyfathrebu

3. ei emosiynau

Gallai hyn gynnwys

  • cefnogaeth weledol i'w helpu i ymgartrefu yn yr ysgol a deall a chyfathrebu
  • lle arbennig os yw'r ystafell ddosbarth yn mynd yn rhy swnllyd neu lethol
  • gweithgareddau i ddatblygu eu sgiliau gwrando a sylw
  • cefnogaeth i chwarae gyda'i ffrindiau

Mae llawer o blant yn elwa o gael trefn a chanmoliaeth. I rai, gallai hyn fod yn wobr fel ei hoff weithgaredd neu seibiant symud ar ôl iddo gwblhau tasgau byr.

Mae pob plentyn yn wahanol, felly mae'n bwysig bod pawb cael dweud eu barn ynghylch y ffordd orau o'i gefnogi.

Gall ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc yn yr ysgol mewn sawl ffordd wahanol. Mae hyn yn cynnwys plant sydd efallai â diagnosis o Awtistiaeth, neu sy'n aros am asesiad o Awtistiaeth.

 

Sefydliadau, Hyfforddiant ac Adnoddau:

Mae ELKLAN yn sefydliad sy'n gallu cefnogi staff i ddeall datblygiad sgiliau lleferydd ac iaith ac anghenion cyfathrebu cymdeithasol. Mae cyrsiau i rieni ar gael hefyd.

https://www.elklan.co.uk/

WellComm- gellir defnyddio'r pecyn cymorth hwn mewn ysgolion cynradd i nodi a chefnogi sgiliau lleferydd ac iaith plant.

https://www.gl-assessment.co.uk/assessments/products/wellcomm/

 Language link - pecyn ar-lein yw hwn y gellir ei ddefnyddio i adnabod a chefnogi plant ag anawsterau lleferydd ac iaith.

Speech and Language Link - support for SLCN

 

1. Strategaethau, gweithgareddau a dulliau i ddatblygu sgiliau gwrando a sylw:

Mae'r rhain yn strategaethau ac yn weithgareddau niferus y gall ysgolion eu defnyddio fel rhan o'u cefnogaeth feunyddiol i blant a phobl ifanc. Fel rhieni a gofalwyr, efallai y byddant yn ddefnyddiol i chi hefyd.

Datblygu sgiliau gwrando gweithredol- mae hyn yn cynnwys dysgu sgiliau edrych, gwrando, eistedd a meddwl da. Mae sawl ffordd o wneud hyn ond mae cefnogaeth weledol yn rhan bwysig o ddatblygu'r sgil hon. Weithiau, defnyddir lluniau i gefnogi dealltwriaeth.

https://www.widgit.com/resources/curriculum/school-environment/behavioural_prompts/index.htm

Amser bwced - techneg y gellir ei defnyddio i adeiladu sgiliau sylw a gwrando plant, cyswllt llygaid a'r gallu i eistedd am gyfnodau o amser. Mae hyn hefyd yn datblygu sgiliau rhyngweithio cymdeithasol.

https://www.ginadavies.co.uk/parents-services/professional-shop/foundation/

Gemau Cymryd Tro - gall y rhain fod yn ddefnyddiol wrth helpu plant i ddatblygu eu sgiliau chwarae cydweithredol a gellir eu teilwra i anghenion y plant unigol.

https://www.twinkl.co.uk/search?q=turn+taking+games&c=247&ca=345&ct=SaLT&r=teacher&fco=19131&from_category_similar=1

Addasu Iaith- dyma ble mae oedolion yn defnyddio geiriau sengl, yn talpio gwybodaeth (i rannau llai) ac yn defnyddio seibiannau i helpu plant i ddeall gwybodaeth lafar.

https://www.autism.org.uk/advice-and-guidance/topics/communication/tips

Gorsafoedd gwaith- dyma ble gellir addasu ardal o'r ystafell ddosbarth yn ardal fwy tawel, sy'n tynnu sylw'n llai i helpu plant i orffen tasgau.

https://autismclassroomresources.com/independent-work-stations-for-autism/

Chwarae Modelu- gall oedolion chwarae rhan bwysig wrth ddangos i blant sut i chwarae. Gwneir hyn drwy ryngweithio a modelu chwarae fel y gall plant gopïo gweithredoedd a datblygu eu sgiliau eu hunain.

https://www.beyondautism.org.uk/resource-hub/developing-social-play-skills/

 

2. Strategaethau, gweithgareddau a dulliau i gefnogi cyfathrebu

Gall y rhain helpu plant a phobl ifanc i ddeall a defnyddio iaith.

Gwrthrychau cyfeirio- dyma wrthrychau e.e. cot neu fag, y gellir eu defnyddio i gynrychioli gweithgaredd, person neu le.

https://www.sense.org.uk/information-and-advice/communication/objects-of-reference/

Defnyddio cymorth gweledol- dyma ble gellir defnyddio ffotograffau, llinluniau, symbolau neu ddelweddau i wella dealltwriaeth a darparu cyfleoedd i ofyn am eitemau a gweithgareddau hefyd.

https://www.autism.org.uk/advice-and-guidance/topics/communication/communication-tools/visual-supports

Cyfathrebu â chymorth arwyddion - mae cyfathrebu â chymorth arwyddion yn ffordd o gyfathrebu a meithrin perthnasoedd gan ddefnyddio ein dwylo, mynegiant yr wyneb ac iaith y corff. Y ddau brif fath cydnabyddedig yw Makaton a Signalong ond defnyddir Iaith Arwyddion Prydain weithiau hefyd.

https://signalong.org.uk/

https://makaton.org/

https://hwb.gov.wales/news/articles/d37e4b7e-b37a-4c77-8d6d-de427b83ec56

Pasbort cyfathrebu - mae pasbort cyfathrebu yn dod â gwybodaeth am blentyn neu berson ifanc ynghyd i helpu pobl i ddod i'w hadnabod.

https://www.communicationmatters.org.uk/what-is-aac/types-of-aac/communication-passports/

Defnyddio cyfathrebu amgen a chynyddol (CAC)

Dyma ble mae plant a phobl ifanc yn defnyddio arwyddion a symbolau i gyfleu eu hanghenion naill ai trwy lyfrau a lluniau (technoleg isel) neu drwy dabled/iPad uwch-dechnoleg).

https://cavuhb.nhs.wales/our-services/electronic-assistive-technology/the-aac-hub/

Cefnogaeth Weledol

Amserlenni dyddiol - mae amserlenni dyddiol yn amserlenni gyda lluniau, delweddau, symbolau neu eiriau a all gefnogi plentyn neu berson ifanc i fod yn ymwybodol o weithgareddau a newidiadau yn ystod y diwrnod ysgol.

Cyngor ac arweiniad (autism.org.uk)

Bwrdd 'Yn gyntaf / wedyn' - gall y rhain helpu plant a phobl ifanc i gwblhau tasgau a symud o un gweithgaredd i'r llall. Weithiau gelwir y rhain yn fyrddau nawr a nesaf.

https://www.twinkl.co.uk/resource/t-s-111-now-and-next-board

Byrddau dewis- mae bwrdd dewis yn gymorth gweledol a ddefnyddir gan blentyn neu berson ifanc i gyfathrebu gweithgaredd, eitem neu leoliad a ddymunir.

https://autismspectrumteacher.com/picturechoiceboard/

Straeon cymdeithasol- mae Straeon Cymdeithasol yn helpu i esbonio sefyllfaoedd a rheolau cymdeithasol i blentyn neu berson ifanc a'u helpu i ddysgu ffyrdd newydd o ymdopi â'r sefyllfaoedd hyn.

https://www.autism.org.uk/advice-and-guidance/topics/communication/communication-tools/social-stories-and-comic-strip-coversations

Cardiau cael seibiant- gall cerdyn cael seibiant helpu pan fydd plentyn yn cael ei lethu ac mae'n rhoi cyfle i'r plentyn neu'r person ifanc gymryd eiliad i dawelu.

https://teachingautism.co.uk/movement-breaks-what-and-why/

Byrddau tasgau - Gellir defnyddio byrddau tasgau fel mapiau gweledol o wahanol gamau tasgau. Mae'n ffordd weledol o ddangos i'r plentyn neu'r person ifanc beth sydd angen ei wneud.

https://www.twinkl.co.uk/search?q=asd+task+management+boards

Labelu'r amgylchedd - Mae labelu'n bwysig i blant a gall eu helpu i ddeall beth sydd yn eu hamgylchedd a dod yn fwy annibynnol yn yr ystafell ddosbarth.

https://theautismhelper.com/labels-for-an-autism-classroom-why-labeling-is-so-important/

 

3. Strategaethau a gweithgareddau i gefnogi emosiynau:

Ystafelloedd Synhwyraidd - ystafell synhwyraidd yw ystafell y gall ysgolion ei defnyddio i helpu plant a phobl ifanc i reoleiddio'u hunain. Mae hyn yn golygu y gellir eu helpu i dawelu os ydynt yn ofidus neu efallai bydd rhai plant a phobl ifanc eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau chwilio synhwyraidd fel rhan o'u hamserlen ddyddiol.

Ardal/ystafell dawel- mae'r rhain yn debyg i ystafelloedd synhwyraidd ond gall plentyn neu berson ifanc ddefnyddio'r ardaloedd hyn i deimlo'n dawel mewn ffordd wahanol gan nad ydynt yn gorsymbylu'r plant.

Ardaloedd synhwyraidd- enghraifft o hyn fyddai pabell dywyllu. Gellid gosod hon yn yr ystafell ddosbarth i helpu plant a phobl ifanc i gael cyfle i ymdawelu heb adael yr ystafell ddosbarth.

https://www.autism.org.uk/autism-services-directory/t/thesensory-room

Cylchedau synhwyraidd - mae cylchedau synhwyraidd yn weithgareddau y gall plant a phobl ifanc gymryd rhan ynddynt fel y gallant ddod yn rheoledig a dysgu'n well.

Sensory Circuits | Children Young People and Families Online Resource (berkshirehealthcare.nhs.uk)

https://www.ldalearning.com/product/sensory/multi-sensory/sensory-circuits-book/aemt11364

Gwirio emosiynau - gellir gwneud hyn ar ddechrau'r dydd neu ar wahanol adegau yn y dydd i helpu plant i wybod sut maen nhw'n teimlo. Gellir cefnogi hyn yn weledol os oes angen.

Graddfeydd pum pwynt - gall hyn helpu plant i nodi sut maen nhw'n teimlo ar raddfa o 1-5 a sut i deimlo'n well trwy wneud gweithgareddau syml yn y dosbarth fel cael hoe a diod o ddŵr.

Siartiau ABC - gellir defnyddio'r rhain i helpu staff ysgolion i adnabod sefyllfaoedd a all peri i blant gynhyrfu/brofi diffyg rheolaeth emosiynol a gellir rhoi strategaethau ar waith i'w helpu.

https://autismwales.org/cy/rhieni-a-gofalwyr/gwybodaeth-ar-gyfer-plentyn-awtistig/taflenni-cyngor/defnyddio-siart-abiec-i-nodi-sbardunau-ymddygiad-heriol-mewn-plant-ag-awtistiaeth/

Parthau rheoleiddio - dull o reoli rheoleiddio cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc.

https://zonesofregulation.com/

Gwyntyllau emosiynau - gellir defnyddio'r rhain i helpu plant i ddeall a chyfleu sut maen nhw'n teimlo pan fyddant ar grwydr gan eu bod yn hawdd eu cludo ar gylch allwedd, er enghraifft.

https://www.twinkl.co.uk/resource/emotions-fan-t-par-1660056040

Teganau Byseddu - gall y rhain fod yn ddefnyddiol i helpu plant i reoleiddio a'u helpu i wrando.

https://nationalautismresources.com/fidgets-in-the-classroom/

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Tachwedd 2024