Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad Cyffredinol i Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r bwrdd yn gwneud gwahaniaeth drwy sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r un blaenoriaethau.

Mae gan y bwrdd bedair prif dasg:

  1. Llunio a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ninas a sir Abertawe.
  2. Llunio a chyhoeddi Cynllun Lles lleol ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe sy'n amlinellu amcanion lleol a'r camau y mae'n cynnig eu cymryd i'w cyflawni.
  3. Cymryd yr holl gamau rhesymol i gyflawni'r amcanion lleol a osodwyd.
  4. Llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi cynnydd y bwrdd wrth geisio cyflawni'r amcanion lleol.

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor gweithgareddau'r bwrdd.  Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau y diwellir anghenion presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Yn benodol, mae datblygu cynaliadwy'n golygu ystyried y ffyrdd o weithio canlynol:

  • Y tymor hir - cydbwyso anghenion tymor byr â'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
  • Ataliaeth - gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu.
  • Integreiddio - sicrhau fod pob asiantaeth cyhoeddus yn ystyried y nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion cyrff cyhoeddus eraill wrth bennu eu blaenoriaethau eu hunain.
  • Cydweithio - gweithio gydag unrhyw un a allai helpu sefydliad i gyflawni ei amcanion lles.
  • Cynnwys - cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau lles a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal leol.

Ymrwymiadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae cyfres o ymrwymiadau yn sail i waith y bwrdd, ac mae'n rhaid i holl aelodau a chyfranogwyr y bwrdd ymrwymo iddynt pan fyddant yn ymuno. Mae'r ymrwymiadau hyn y tu hwnt i'r dyletswyddau cyfreithiol sydd gan y sefydliadau gwahanol.

Aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gan y bwrdd bedwar sefydliad sy'n aelodau statudol y mae gofyn iddynt gymryd rhan yn ôl y gyfraith.