Adrodd am newid mewn amgylchiadau a all effeithio ar eich budd-daliadau
Os ydych yn hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor a/neu Fudd-dal Tai ac mae eich amgylchiadau'n newid, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.
Gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi newid, efallai bydd eich budd-daliadau'n lleihau neu'n cael eu cynyddu.
Sut ydw i'n dweud wrthych am newid mewn amgylchiadau?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor
Y ffordd hawsaf i ddweud wrthym am newid yw cwblhau ein ffurflen ar-lein.
Report a change of circumstances using our online benefits form
Drwy ysgrifennu i'r Is-adran Budd-daliadau, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN neu drwy e-bostio budd-daliadau@abertawe.gov.uk.
Os nad ydych yn dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau o fewn mis i'r newid, gallwch golli unrhyw gynnydd yn eich budd-dal neu, os oes gostyngiad yn eich budd-dal, gallech gael eich gordalu a bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Dylai landlordiaid sy'n derbyn taliadau uniongyrchol o Fudd-dal Tai am denant hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau y maent yn cael gwybod amdanynt.
Pa newidiadau y dylwn i sôn wrthych amdanynt?
Dyma enghreifftiau o'r math o newidiadau mewn amgylchiadau y mae'n rhaid i bawb roi gwybod amdanynt ar unwaith i'r Is-adran Budd-daliadau:
Nodwch: * Cyfalaf - unrhyw gyfrif gyda banc neu sefydliad arall, cynilion, buddsoddiadau, eiddo neu dir
- mae eich incwm neu eich cyfalaf chi, eich partner neu rywun arall yn eich cartref yn newid *
- os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch cartref yn gorffen derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol.
- os ydych chi'n derbyn Credyd Cynilion Pensiwn ac mae eich cyfalaf * yn cynyddu i dros £16,000
- os bydd rhywun naill ai'n dechrau derbyn neu'n peidio â derbyn Lwfans Gofalwyr neu'r elfen Gofalwyr o Gredyd Cynhwysol am ofalu amdanoch
- os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch cartref yn dechrau gweithio.
- os yw swm eich taliadau gofal plant yn newid.
- os yw nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref yn newid (gan gynnwys unrhyw un sy'n byw gyda chyd-denant)
- os yw eich cyfeiriad yn newid (i denantiaid preifat, mae hyn yn cynnwys newid ystafell yn yr un eiddo).
- os nad ydych chi'n denant y cyngor ac mae'r rhent y mae'n rhaid i chi ei dalu'n newid
- mae eich landlord neu berchennog yr eiddo yn dod yn gyfrifol am unrhyw un o'ch plant
- os yw unrhyw un o'ch plant yn gadael yr ysgol. • Os rydych chi neu'ch partner yn mynd i'r carchar.
- os rydych chi neu'ch partner yn penderfynu aros mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio'n barhaol.
- os rydych chi'n gadael eich cyfeiriad am gyfnod dros dro e.e. os ydych yn mynd ar wyliau, yn mynd i'r ysbyty neu i gartref gofal preswyl.
- os rydych yn absennol o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban), gall eich Budd-dal Tai ddod i ben o'r dyddiad rydych yn gadael Prydain Fawr os disgwylir i'ch absenoldeb bara dros 4 wythnos.
- rydych chi'n dod yn fyfyriwr a/neu mae eich incwm myfyriwr yn newid (neu mae eich grant/ benthyciad/incwm yn newid)
- rydych yn derbyn gofal cymdeithasol ac mae eich iechyd neu eich gofal chi neu eich partner yn newid Dylech roi gwybod am hyn hefyd i'r Is-adran Incwm a Chyllid Gofal Cymdeithasol.
- mae diogelwch ychwanegol wedi'i osod ar eich eiddo dan gynllun noddfa ac mae'ch Budd-dal Tai yn amodol ar ddileu'r cymhorthdal ystafell sbâr (treth ystafell wely).
Sylwer nad yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr. Os bydd unrhyw amgylchiadau nad ydynt wedi'u rhestru uchod yn newid, cysylltwch â'r Is-adran Budd-daliadau.
Oes angen i mi ddarparu prawf o fy newid mewn amgylchiadau?
Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf o newid mewn amgylchiadau, er enghraifft:
- os yw'ch enillion wedi newid
- os ydych yn hunangyflogedig
- os yw'ch costau gofal plant wedi newid
Efallai na fyddwn yn gallu talu'ch budd-dal nes ein bod wedi gweld yr holl dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani.Os nad oes modd i chi ddarparu peth o'r dystiolaeth hon, cysylltwch â ni a gallwn siarad am ffyrdd eraill i ni gael y prawf.
Send us electronic copies of documents as evidence for a change in circumstances
Eich Preifatrwydd
Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl gyfraith. Esbonnir hyn yn fanylach ar ein tudalen 'Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol - Refeniw a Budd-daliadau'.
Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.