Caffi Cynefin
Lle Llesol Abertawe
Ar agor yn ystod y tymor ysgol yn unig ar ddydd Iau, o 9.00am tan 11.45am. Caffi olaf tymor yr hydref - 19 Rhagfyr.
Rydym ar agor bob dydd Iau yn ystod y tymor, o 9.00am i 11.45am.
Mae'r caffi'n cael ei redeg gan ein disgyblion gwych, sy'n cael profiad o weithio yn y 'byd gwaith go iawn'. Dewch i ymuno â ni!
Mae Caffi Cynefin yn fan lle gall pob cenhedlaeth ddod at ei gilydd i ymlacio, mwynhau a myfyrio. Dydyn ni ddim yn codi tâl am ein lluniaeth ond rydym yn dibynnu ar roddion er mwyn i'r caffi hwn fod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Os hoffech wirfoddoli neu roi rhodd, cysylltwch â'r ysgol.
- Toiledau / toiledau hygyrch
- Mae lluniaeth ar gael
- rydym yn gweini te, coffi, diod ffrwythau ac amrywiaeth o deisennau, cramwyth a chacennau te, ac mae dewis iach wythnosol ar gael (ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis cael teisen!) Does dim angen talu!
- sgôr hylendid bwyd 5 seren
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
- Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
- mae ein Cydlynydd Ardal Leol a'r Heddlu lleol yn aml yn galw heibio i gynnig cymorth a chyngor
Cyfeiriad
Ysgol Gynradd Llanrhidian
Llanrhidian
Abertawe
SA3 1EH