Gwneud cais am drwydded safleoedd cartrefi symudol preswyl
I wneud cais am drwydded safleoedd cartrefi symudol preswyl, dylech lenwi'r ffurflen hon a lanlwytho'r dogfennau ategol.
Cyn i chi lenwi'r ffurflen trwydded safleoedd cartrefi symudol preswyl
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol i lenwi'r ffurflen hon. Dylech wneud yn siŵr bod gennych y canlynol cyn eich bod yn dechrau llenwi'r ffurflen.
- Dylid atodi cynllun o'r safle i raddfa nad yw'n llai na 1/500, sy'n dangos ffiniau'r safle, safle wynebau caled y cartrefi symudol a (lle y bo'n briodol):
- Ffyrdd a throedffyrdd
- Mannau hamdden
- Blociau toiledau, storfeydd ac adeiladau eraill
- Mannau ymgynnull tân
- Draeniad dŵr brwnt a dŵr wyneb
- Lleoedd parcio
- Cyflenwad dŵr
- Garejis/siediau storio
- Asesiad perygl llifogydd ar gyfer y safle
- Tystysgrif diogelwch nwy ar gyfer y safle
- Tystysgrif diogelwch trydan ar gyfer y safle
- Asesiad risgiau tân ar gyfer y safle
- Asesiad risg iechyd a diogelwch ar gyfer y safle
- Copi o reolau'r safle
Addaswyd diwethaf ar 11 Mawrth 2025