Gwneud cais am drwydded bridiwr cŵn
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded sefydliad bridio cŵn.
Cyn cwblhau eich cais, sicrhewch eich bod yn gallu darparu'r canlynol:
- Manylion brîd eich ci(/cŵn).
- Manylion eich staff.
- Manylion lles cŵn, h.y. trefniadau ymarfer corff.
- Enw a chyfeiriad y milfeddyg.
- Manylion ar gyfer yr adran Rhaglen Gwella a Chyfoethogi/adran Yr Amgylchedd a'r Rhaglen Gyfoethogi a'r adran Rhaglen Gymdeithasu.
- Adroddiad iechyd a lles ysgrifenedig gan eich milfeddyg yn manylu'r cŵn (ci gre a geist bridio) a archwiliwyd. Lawrlwythwch yr adroddiad canlynol i'ch milfeddyg ei gwblhau a'i gynnwys yn eich cais Archwiliad Milfeddygol o Addasrwydd Cŵn i Fridio (Word doc, 46 KB).
- Cynllun o'ch eiddo. Rhaid iddo gynnwys nifer y cytiau cŵn a maint pob un ohonynt.
Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Codir ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg os bydd un.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2024