Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw sefydliad lletya anifeiliaid.

Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd angen i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.

Mae'r ffurflen gais hon ar gyfer pobl sydd am gynnal sefydliad lletya anifeiliaid ac mae'n gymwys ar gyfer cytiau cŵn, cathdai a mangreoedd tebyg eraill. Os ydych chi'n darparu gwasanaeth lletya cŵn neu wasanaeth gwarchod yn y cartref yn eich cartref eich hun, dylech gwblhau'r ffurflen gais am drwydded lletya cartref.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ionawr 2025