Toglo gwelededd dewislen symudol

Problemau gyda'r ffonau

O ganlyniad i broblemau parhaus yn dilyn toriadau trydan ddydd Gwener, efallai na fydd modd i chi gysylltu â ni dros y ffôn. Os ydych yn ffonio, mae'n bosib y bydd yn ymddangos eich bod mewn ciw, ond ni fydd ein staff yn gallu eich ateb gan nad oes cymorth teleffoni ar gael. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni ar-lein yn abertawe.gov.uk/gwnewchearlein neu gallwch e-bostio gan ddefnyddio'r manylion yn abertawe.gov.uk/manylionffonacebost

Campfeydd awyr agored

Mae gennym 10 gorsaf ffitrwydd o gwmpas Llyn y Fendrod a llwybr ffitrwydd ar hyd Promenâd Abertawe gyda chyfarpar am ddim i bawb ei ddefnyddio.

Mae campfeydd awyr agored bellach wedi ailagor. Bydd angen i chi ddarparu'ch diheintydd a'ch hancesi sychu eich hunain.

Campfa Awyr Agored Llyn y Fendrod

Mae'r 10 gorsaf ffitrwydd ar lan Llyn y Fendrod yn berffaith i'r rhai sy'n mwynhau ymarfer yn yr awyr agored neu'r rhai sy'n teimlo bod y gampfa ychydig yn frawychus.

Ffitrwydd ar hyd y Prom

Mae'r llwybr ffitrwydd ar hyd Prom Abertawe'n gylched ymarfer corff sy'n berffaith i'r rhai sy'n mwynhau'r awyr iach, ymarfer corff yn yr awyr agored neu sy'n teimlo'n anghyfforddus yn y gampfa.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Awst 2021