Campfa Awyr Agored Llyn y Fendrod
Mae'r 10 gorsaf ffitrwydd ar lan Llyn y Fendrod yn berffaith i'r rhai sy'n mwynhau ymarfer yn yr awyr agored neu'r rhai sy'n teimlo bod y gampfa ychydig yn frawychus.
Gellir defnyddio'r cyfarpar ar gyfer ymarferion amrywiol a all wella cydbwysedd, cryfder a chydsymud ac mae am ddim i bawb ei ddefnyddio. Mae'r gorsafoedd wedi'u rhannu'n 3 pharth:
Parth Cardio (melyn)
Mae'r cyfarpar hwn yn bennaf ar gyfer gweithgarwch parhaus, a fydd yn datblygu gweithrediad y galon a'r ysgyfaint. Mae manteision y math hwn o weithgarwch yn sylfaen i lawer o raglenni ffitrwydd ac mae'n un o'r mannau dechrau gorau ar gyfer unrhyw raglen ffitrwydd.
Parth Ffyrfhau (pinc)
Mae manteision yr ymarferion hyn yn cynnwys rheolaeth well ar y cymalau, cryfder a ph?er, osgo a sefydlogrwydd. Bydd hefyd yn helpu gyda diffiniad cyhyrau a ffyrfhau cyffredinol.
Parth Oeri (glas)
Defnyddiwch y cyfarpar hwn i gynhesu ac oeri ar ôl sesiwn ymarfer corff. Mae'r cyfarpar hwn yn benodol ar gyfer y system adfer. Mae gorsafoedd ymestyn a rhai ar gyfer y torso, wedi'u dylunio'n ofalus i dargedu'r gwaith a wneir i gyhyrau allanol yr abdomen mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.
Pwysig
- Byddwch yn defnyddio'r cyfarpar hwn ar eich menter eich hun. Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf a achosir wrth ddefnyddio'r cyfarpar.
- Peidiwch â defnyddio'r cyfarpar os ydych yn meddwl ei fod yn ddiffygiol neu wedi torri.
- Argymhellir i'r rhai dros 14 oed
- Dylech gael cyngor eich meddyg cyn defnyddio'r cyfarpar ymarfer corff hwn os nad ydych yn iach neu os ydych wedi'ch anafu neu'n feichiog.
- Peidiwch â defnyddio hwn oni bai eich bod yn deall sut mae ei ddefnyddio'n ddiogel.
- Defnyddiwch y cyfarpar at y diben arfaethedig yn unig.
- Ni ddylai unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol ddefnyddio'r cyfarpar.
- Defnyddiwch y cyfarpar â pharch a stopiwch pan fyddwch wedi blino.
I roi gwybod am faterion cynnal a chadw, ffoniwch 01792 280210.