Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllaw i aelodau cyfetholedig paneli a gweithgorau Craffu

Mae'r arweiniad hwn ar gyfer unrhyw un y gofynnwyd iddo ymuno â phanel neu weithgor craffu fel aelod cyfetholedig.

Gwybodaeth am baneli a gweithgorau

  • grwpiau tasg a gorffen yw paneli a gweithgorau, sy'n cynnwys cynghorwyr o grwpiau pleidiau gwahanol
  • mae dau fath o banel - Paneli Perfformiad sy'n monitro ac yn herio maes darpariaeth gwasanaeth yn barhaus, a Phaneli Ymchwilio sydd fel arfer yn treulio chwe mis yn ymchwilio i bwnc yn fanwl
  • mae'r tîm Craffu yn cyfleu ei gasgliadau a'i argymhellion i'r Cabinet mewn dwy ffordd: mae'r Pwyllgor, paneli perfformiad a gweithgorau yn ysgrifennu llythyrau cyhoeddus; mae paneli ymchwilio yn llunio adroddiadau a gyflwynir i'r Cabinet
  • bydd gan y paneli gylch gorchwyl a fydd yn nodi ar beth y byddant yn canolbwyntio a sut byddant yn gweithio
  • fel arfer mae gweithgorau'n cwrdd unwaith yn unig er mwyn craffu ar fater yn gyflym ac ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet gyda'u casgliadau a'u hargymhellion
  • mae paneli a gweithgorau yn derbyn cymorth gan swyddog craffu sy'n trefnu cyfarfodydd, yn gwneud nodiadau, yn drafftio adroddiadau, etc.

Diben eich gwahodd i fod yn aelod cyfetholedig

Fe'ch gwahoddir i ymuno â'r panel/gweithgor gan fod gennych yr arbenigedd, y sgiliau neu'r wybodaeth nad oes gan y panel mohonynt. Esboniwyd hwn yn eich gwahoddiad i fod yn aelod cyfetholedig. Dylech felly fod yn barod i fynegi eich barn a'ch safbwyntiau yn seiliedig ar eich gwybodaeth a'ch profiad.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Fel aelod cyfetholedig dylech ddisgwyl i:

  • gyfrannu at waith y panel drwy e-bost ac mewn cyfarfodydd
  • gofyn cwestiynau i'r rheini sy'n darparu tystiolaeth yn unol â chylch gorchwyl y Panel
  • helpu i ffurfio penderfyniadau ac argymhellion pan ofynnir i chi wneud hynny
  • bod yn glir am y cyfnod y gofynnir i chi gymryd rhan (mae ymchwiliadau craffu, er enghraifft, fel arfer yn cymryd chwech i wyth mis)
  • cael treuliau arferol wedi'u talu, er enghraifft cludiant

Fel aelod cyfetholedig ni ddylech:

  • ymwneud ag unrhyw bleidleisiau ffurfiol
  • gweithredu fel cynullydd (cadeirydd) yn y cyfarfod

Ymddygiad da - cyffredinol

Mae Cynghorwyr wedi'u rhwymo gan gôd ymddygiad i sicrhau eu bod nhw'n ymddwyn yn addas ac er lles y cyhoedd. Mae hyn wedi'i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

Fel aelod cyfetholedig o grŵp tasg a gorffen anffurfiol nid ydych wedi eich rhwymo gan gôd ymddygiad ffurfiol. Fodd bynnag, dylech ddilyn safonau ymddygiad da drwy:

  • weithio er lles y cyhoedd yn eich rôl fel aelod cyfetholedig
  • hyrwyddo cyfleoedd i bawb, ni waeth beth yw eu rhyw, eu hil, eu tueddfryd rhywiol, eu hoedran neu eu crefydd
  • dangos parch at eraill ac ystyriaeth iddynt
  • peidio â bwlio neu aflonyddu unrhyw berson
  • peidio â gwneud unrhyw beth a allai beryglu amhleidioldeb y rheini sy'n gweithio i'r cyngor
  • cadw'n gyfrinachol unrhyw wybodaeth a roddir i chi yr ystyrir ei bod o natur gyfrinachol
  • peidio â defnyddio eich rôl i ennill mantais i chi'ch hun neu unrhyw berson arall
  • dod i gasgliadau ar sail y dystiolaeth sydd gennych
  • ystyried unrhyw gyngor perthnasol a ddarperir gan swyddogion y cyngor
  • cadw'r gyfraith a rheolau'r cyngor os ydych yn hawlio treuliau
  • peidio â'ch dylanwadu heb fod angen gan unrhyw un, er enghraifft drwy roddion
  • datgan unrhyw fuddion sydd gennych, boed yn bersonol, yn wleidyddol neu'n broffesiynol, a allai fod yn berthnasol i'ch rôl fel aelod cyfetholedig.

Ymddygiad Da - Craffu

Diben Craffu yw gwneud argymhellion adeiladol sy'n seiliedig ar ganfyddiadau ffeithiol. Nid pwrpas Craffu yw meithrin diwylliant bai neu feirniadu rhywun yn annheg. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid iddo weithredu mewn amgylchedd sy'n cefnogi egwyddorion gwella gwasanaethau.

Er mwyn cynorthwyo'r ymagwedd hon, dylai aelodau Craffu:

  • weithio gyda diwydrwydd dyladwy a bodloni eu hunain bod pob mater perthnasol yn cael sylw
  • peidio â bod yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol
  • defnyddio eu pwerau craffu yn gywir ac ymddwyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r ymddiriedaeth y mae gan ddinasyddion yn y broses
  • sicrhau nad yw agendâu personol neu wahaniaethau ar sail safbwynt gwleidyddol yn effeithio ar broses graffu effeithiol
  • peidio â beirniadu aelodau neu swyddogion eraill yn gyhoeddus neu'n bersonol (ni ddylid cyfeirio cwestiynau craffu at ymddygiad unigolion gyda'r nod o feirniadu neu feio).
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mai 2024