Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw'r broses graffu?

Trefnir gwaith cyffredin tîm Craffu Abertawe gan Bwyllgor Rhaglen Graffu'r cyngor. Maent yn trefnu ac yn rheoli'r hyn y bydd Craffu'n edrych arno bob blwyddyn.

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n trafod materion gwahanol. Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd bob mis a bydd yn aml yn cynnal sesiynau trafod gydag Aelodau'r Cabinet am gyfrifoldebau eu portffolio. Gall aelodau'r cyhoedd hefyd gyfrannu syniadau at y sesiynau hyn. 

Gwneir yr holl waith arall gan Gynghorwyr Craffu trwy wneud amrywiaeth o weithgareddau eraill:

  • Paneli Craffu Perfformiad. Mae'r rhain yn cwrdd yn rheolaidd ac yn edrych ar berfformiad meysydd penodol, er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau.
  • Paneli Ymchwilio Craffu. Maent yn edrych ar un pwnc yn fanwl am 6 i 9 mis. Byddant yn datblygu adroddiad gyda thystiolaeth a syniadau ar gyfer yr Aelod Cabinet perthnasol.
  • Gweithgorau Craffu. Cyfarfodydd untro sy'n edrych ar fater sy'n peri pryder ac yn datblygu sylwadau a syniadau.

Mae gan bob grŵp gynullydd sy'n cadeirio cyfarfodydd ac yn ymgysylltu ag Aelodau'r Cabinet. Byddant yn gofyn cwestiynau, yn rhoi barn ac yn gwneud argymhellion.

Sut y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith craffu?

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yr hoffech gymryd rhan mewn gwaith craffu, mae sawl ffordd y gallwch wneud hyn.

Canllaw i aelodau cyfetholedig paneli a gweithgorau Craffu

Mae'r arweiniad hwn ar gyfer unrhyw un y gofynnwyd iddo ymuno â phanel neu weithgor craffu fel aelod cyfetholedig.

Canllaw i fod yn dyst mewn panel craffu neu bwyllgor rhaglen

Y rheswm y gofynnwyd i chi fod yn dyst i Bwyllgor y Rhaglen Graffu neu mewn Panel Craffu yw oherwydd eich bod yn wybodus am bwnc penodol sy'n cael ei ystyried.
Close Dewis iaith