Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllaw i fod yn dyst mewn panel craffu neu bwyllgor rhaglen

Y rheswm y gofynnwyd i chi fod yn dyst i Bwyllgor y Rhaglen Graffu neu mewn Panel Craffu yw oherwydd eich bod yn wybodus am bwnc penodol sy'n cael ei ystyried.

Fel arall, gallai fod oherwydd bod gan y cynghorwyr ddiddordeb mewn clywed eich barn a'ch profiadau ar bwnc y maent yn edrych arno.

Pwy fydd yn bresennol?

Os ydych yn mynd i Bwyllgor y Rhaglen Graffu, bydd y canlynol yn bresennol:

  • cynghorwyr (gan gynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd)
  • swyddog craffu
  • swyddog y gwasanaethau democrataidd (a fydd yn cadw cofnodion o'r cyfarfod)
  • swyddog cyfreithiol

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd fod yn bresennol, ond rhaid iddynt eistedd yn yr oriel gyhoeddus. Cyfarfodydd anffurfiol yw cyfarfodydd y Panel Craffu, felly dim ond y cynghorwyr a swyddogion craffu fydd yn bresennol.

Darparu tystiolaeth

Mae nifer o wahanol ffyrdd y gellir gofyn i dystion ddarparu gwybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • tystiolaeth ysgrifenedig - gall hyn fod ar ffurf adroddiad neu ddatganiad neu lythyr ysgrifenedig. Gall tystion mewnol gael templedi adrodd drwy gysylltu â'r tîm craffu.
  • tystiolaeth lafar - gall hyn fod ar ffurf cyflwyniad, cyfweliad neu drafodaeth.

Bydd y swyddog craffu wedi cysylltu â chi cyn y cyfarfod i esbonio'r math o wybodaeth sy'n ofynnol ac ym mha ffordd yr hoffent dderbyn yr wybodaeth.

Cyn y cyfarfod

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig neu os oes angen unrhyw offer arnoch i ddarparu'ch gwybodaeth, rhowch wybod i'r swyddog craffu fel y gellir gwneud trefniadau.

Yn y cyfarfod

Gallwch drefnu i swyddog craffu gwrdd â chi er mwyn mynd â chi i'r cyfarfod. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau neu fynd i'r afael ag unrhyw faterion sydd gennych.

Ar ôl y cyfarfod

Os oes angen rhagor o wybodaeth gennych, bydd y swyddog craffu yn cysylltu â chi i drefnu hyn.

Close Dewis iaith