Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheolau safle'r canolfannau ailgylchu

Gwybodaeth am bwy sy'n gallu defnyddio'r canolfannau ailgylchu a rheolau ar gyfer pryd rydych yn ymweld i sicrhau diogelwch pawb.

  1. Preswylwyr Abertawe'n unig all ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu, felly efallai byddwn yn gofyn am brawf preswylio. Dewch â bil cyfleustod, eich trwydded yrru neu fil Treth y Cyngor gyda chi pan fyddwch yn ymweld â'r safle.
     
  2. Gall faniau a ôl-gerbydau sydd â thrwyddedau dilys ymweld â chanolfan ailgylchu Llansamlet a Clyne. Ni chaniateir faniau yn unrhyw un o'n canolfannau eraill.
     
  3. Rhannwch eich gwastraff cyn dod i'r safle er mwyn cyflymu'ch ymweliad.
     
  4. Derbynnir bagiau du a gwastraff na ellir ei ailgylchu yng nghanolfannau ailgylchu Llansamlet a Clyne. Dylid rhoi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn unig yn y sachau du. Ni dderbynir unrhyw sachau sy'n cynnwys eitemau ailgylchadwy ac dim ond didoli cyfyngedig yn unig ar gael ar y safle.
     
  5. Mae staff y safle ar gael i roi cyfeiriad a chyngor. Dewch â'r hyn y gallwch ei dadlwytho'n ddiogel yn unig.
     
  6. Ni chaniateir ciwio hir y tu allan i'r safleoedd. Os yw'r ciwiau'n cyrraedd y briffordd ac yn peri risg, bydd staff rheoli gwastraff yn gofyn i bobl adael a dychwelyd ar adeg arall.
     
  7. Byddwch yn ystyriol o breswylwyr lleol a'r amgylchedd drwy ddiffodd eich injan os ydych yn aros yn y ciw i gael mynediad i'r ganolfan ailgylchu.
     
  8. Dangoswch barch tuag at ein staff a defnyddwyr eraill y safle. Ni oddefir unrhyw gam-drin o ran staff neu ddefnyddwyr eraill y safle. Gallai hyn arwain at staff yn gofyn i chi adael y safle, cael eich gwahardd rhag ymweld â'r safle yn y dyfodol a gall gynnwys ymyriad yr Heddlu.
Close Dewis iaith