Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) - Cymorth gartref

Ei nod yw rhoi rhywfaint o wybodaeth syml i chi am sut i helpu gartref.

Mae llawer o ffynonellau gwybodaeth ar gael, gellir gweld y rhain trwy dudalen cysylltiadau defnyddiol y wefan hon. Mae'r rhan fwyaf o'r dolenni defnyddiol ar y dudalen hon wedi eu cymryd o ffynonellau dibynadwy, sef gwefan Awtistiaeth Cymru, gwefan Awtistiaeth Genedlaethol yn bennaf a chanllaw y GIG ar gyfer ASD.

Awtistiaeth-lawrlwythiad-Cymraeg.pdf (autismwales.org)

Rhieni a gofalwyr - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

 

Dathlu gwahaniaeth

Mae awtistiaeth yn gyflwr niwroamrywiol eang sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc mewn gwahanol ffyrdd. Mae pob plentyn yn wahanol ac mae ganddo/i ei b/phersonoliaeth unigryw ei hun. Bydd gan blant sydd ag ASD lawer o gryfderau yn ogystal ag anghenion, y mae'n bwysig eu dathlu.

Taflen-gyngor-Rhai-Arwyddion-Cyffredin-o-Anhwylder-ar-y-Sbectrwm-Awtistiaeth-mewn-Plant1.pdf (autismwales.org)

 

Gweithio gydag ysgolion

Fel rhieni, mae gennych wybodaeth bwysig am eich plentyn ac mae gennych gryfderau, gwybodaeth a phrofiad unigryw i helpu'ch lleoliad gofal plant lleol neu ysgol i ddeall anghenion eich plentyn. 

Mae'n bwysig gweithio mewn partneriaeth â lleoliad gofal plant a'r ysgol i rannu agweddau cadarnhaol anghenion cymdeithasol, cyfathrebu a synhwyraidd eich plentyn yn ogystal ag unrhyw bryderon.

Gweler ein hadran ysgolion i weld y cymorth sydd ar gael.

 

Defnyddio rhwydwaith cymorth

Os yw'n bosibl, ehangwch eich rhwydwaith cymorth drwy siarad â rhieni a gofalwyr eraill yn eich ardal. Gall hyn eich helpu i ddeall sut i gynorthwyo gartref a rhannu'r daith wrth fynd ymlaen.

Gweler y cymorth yn adran gymunedol y wefan hon.

 

Trefn ac arferion

Gall y rhain fod yn ddefnyddiol wrth helpu i ragweld gweithgareddau pob dydd. Pan fydd plant a phobl ifanc yn gwybod beth sy'n rhaid iddynt ei wneud, maent yn fwy tebygol o ymgysylltu.

Datblygir dealltwriaeth o arferion pob dydd trwy brofiad, paratoi i fynd i'r ysgol er enghraifft. Efallai y bydd rhai plant yn elwa o gymorth wrth drefnu pethau arferol gartref trwy ddefnyddio gwrthrychau go iawn neu luniau i helpu plant a phobl ifanc i ddeall.

Gall ffotograffau a chymorth gweledol eraill helpu i baratoi ar gyfer newidiadau, gan symud i ddosbarth newydd yn yr ysgol er enghraifft. 

Mae llawer o gymorth gweledol rhad ac am ddim ar gael ar-lein neu siaradwch â'ch lleoliad gofal plant/ysgol am y math o gymorth y maent yn ei ddefnyddio.

Defnyddio Cynllunwyr Lluniau - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

Trefn y Bore - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

 

Cefnogi cyfathrebu

Gall plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth gael anawsterau cyfathrebu yn enwedig pan fyddant yn ifanc ond gall hyn barhau i'w bywydau'n oedolion. Gallai hyn olygu anawsterau wrth ddefnyddio sgiliau lleferydd ac iaith ond hefyd wrth ddeall sut i gyfathrebu â phobl eraill yn y byd o'u cwmpas - sgiliau cyfathrebu cymdeithasol. Gall hyn arwain at rwystredigaeth. Dewch i wybod y ffordd orau o gyfathrebu yn seiliedig ar anghenion y plentyn neu'r person ifanc.

Gallwch wneud hyn drwy:

  • Alw eu henw i gael eu sylw cyn rhoi cyfarwyddiadau.
  • Defnyddio iaith syml - geiriau sengl neu frawddegau byr.
  • Rhoi amser i blant brosesu a deall, 5/10 eiliad.
  • Cynorthwyo eich iaith lafar gydag ystumiau, gwrthrychau go iawn, lluniau, ffotograffau. Er enghraifft, dangos eu hesgidiau a llun o'r parc pan fyddwch chi eisiau mynd allan i'r parc.
  • Rhoi cyfle iddynt ddangos i chi neu fynd â chi i'r hyn mae ei eisiau arnynt - eich arwain â llaw i'r oergell er enghraifft.

Sut i helpu'ch plentyn awtistig gyda bywyd pob dydd - GIG (www.nhs.uk)

Cyfathrebu (autism.org.uk)

 

Cynorthwyo gydag anghenion synhwyraidd

Mae gan lawer o blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth anghenion synhwyraidd. Gall y byd o'u cwmpas fod yn lle swnllyd, llachar, sy'n tynnu sylw. Mae llawer o blant hefyd yn ei chael hi'n anodd rhyngweithio a bod yn agos at eraill neu gyffwrdd ag eraill. Mae rhai plant yn sensitif i arogleuon, gweadau a blas. Mae pawb yn wahanol.

Meddyliwch am yr amgylchedd o'ch cwmpas. Beth sy'n orsymbylol i'r plentyn neu'r person ifanc? Er enghraifft, efallai'r haul yn dod trwy fleindiau mewn ffenestr neu sŵn sychwr dwylo. Yn yr achosion hyn gall symud allan o olau'r haul, gwisgo sbectol haul neu wisgo amddiffynwyr clust helpu. Byddwch yn dod i adnabod anghenion eich plentyn dros amser.

Mae angen i rai plant gael amser tawel gan ddefnyddio mannau tawel, cerddoriaeth a hoff deganau. Ar adegau eraill efallai y bydd angen i blant redeg o gwmpas, bownsio neu symud mewn ffordd sy'n eu helpu i deimlo'n dawelach (wedi'u rheoleiddio).

ataflen-gyngor-deall-achos-ymddygiad-heriol-plentyn.pdf (autismwales.org)

 

Rheoli pryder

Mae llawer o blant yn aml yn dioddef lefelau uchel o bryder sy'n deillio o'u dryswch am nad ydynt yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt mewn gwahanol sefyllfaoedd neu o newidiadau mewn trefn arferol. Gall pryder ymddangos yn y ffyrdd canlynol:

  • Defnyddio llais uchel/sgrechian.
  • Ailadrodd geiriau neu ymadroddion.
  • Gofyn cwestiynau ailadroddus.
  • Symudiadau ailadroddus/cerdded i fyny ac i lawr.
  • Chwerthin yn amhriodol.
  • Dinistrio eitemau/difrodi pethau o amgylch

Gallwch gefnogi plant a phobl ifanc drwy:

  • Creu arferion i leihau pryder - defnyddiwch amserlen ddyddiol o ffotograffau, lluniau, symbolau neu eiriau a allai fod yn sownd ar ochr yr oergell yn y tŷ er enghraifft.
  • Darparu dewis o weithgareddau o fewn yr amserlen weledol y gallwch eu cwblhau yn ystod y dydd. Er enghraifft, awn ni i'r parc a bwydo'r hwyaid neu fynd i weld Mam-gu heddiw?
  • Osgoi newidiadau sydyn - rhowch rybuddion clir o bryd y bydd un gweithgaredd yn dod i ben ac y bydd un arall yn dechrau. Gall hyn fod yn anodd oherwydd gall pethau newid. Byddwch yn barod ac archebwch ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau er mwyn osgoi siom a ffrwydriadau.
  • Defnyddio'r amserlen weledol i baratoi ar gyfer newidiadau. Os yw plentyn neu berson ifanc yn deall amserlen weledol, defnyddiwch Gerdyn Wps!! i ddangos bod rhywbeth annisgwyl wedi digwydd.
  • Ceisio lleihau unrhyw beth a allai gyfrannu tuag at orlwytho synhwyraidd, e.e. sŵn, symud, goleuadau, lliwiau, arogleuon. Nid yw hyn yn hawdd mewn byd prysur.
  • Mae rhai plant yn gweld bod dull uniongyrchol yn fygythiol, felly safwch wrth ymyl eich plentyn yn hytrach nag o flaen ei (h)wyneb wrth siarad ag ef/hi.

Pryder ynghylch gadael rhieni - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

 

Dicter

Gall plant sydd ag anawsterau cymdeithasol, cyfathrebu / ASD weithiau ymateb yn ddig i rywbeth sy'n ymddangos yn fach i chi.  Gall hyn fod yn broblem oherwydd;

  • Gallai eich plentyn wylltio oherwydd sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau nad yw eraill yn eu hystyried yn arbennig o rwystredig neu "gynhyrfus" ac felly efallai na fyddwch yn disgwyl hyn.
  • Efallai na fydd eich plentyn yn ymwybodol o'r tensiwn sy'n cronni ynddi/o'i hun nes ei bod hi'n rhy hwyr.
  • Efallai na fydd gan eich plentyn/person ifanc y sgiliau angenrheidiol i'w hunanreoleiddio eu hunain ac ymateb yn briodol.
  • Efallai na fydd eich plentyn yn gallu "deall" ei (h)ymateb mewn perthynas â chryfder a natur y digwyddiad/sefyllfa

Gallwch gynorthwyo plant a phobl ifanc drwy:

  • Feddwl am bethau a all achosi straen a dicter yn eich plentyn ac ystyried gwneud rhai newidiadau yn yr amgylchedd er mwyn ceisio eu lleihau.
  • Helpu eich plentyn i nodi unrhyw bwyntiau 'sbardun' (pethau sy'n eu cynhyrfu) a helpu i gynllunio ymateb mwy priodol. Mae siartiau ABC yn dda ar gyfer hyn. Siaradwch â'ch darparwr gofal plant neu'r lleoliad ysgol.
  • Nodi pryd bydd y dicter yn digwydd a gwylio am arwyddion rhybudd.
  • Osgoi sefyllfaoedd sy'n debygol o ennyn dicter os yw'n bosibl!
  • Osgoi gwrthdaro a chadwch eich llais yn dawel.
  • Ceisio tynnu sylw eich plentyn at weithgaredd y mae fel arfer yn ei fwynhau.
  • Ceisiwch bob amser egluro beth rydych am iddynt ei wneud, yn hytrach na dim ond yr hyn nadydych am iddo/iddi ei wneud.
  • Defnyddio cardiau emosiynau/cefnogwyr i helpu'ch plentyn i ddeall sut mae'n teimlo.
  • Gyda phlant sy'n deall iaith, defnyddiwch Raddfa Pum Pwynt Anhygoel neu Barthau Rheoleiddio i'w helpu i fonitro sut maent yn teimlo a beth y gallant ei wneud i'w helpu eu hunain.
  • Gallech ddefnyddio arwydd y cytunwyd arno (e.e. gair, ystum neu lun arbennig), i gyfarwyddo'ch plentyn i ddefnyddio strategaeth ymdopi amgen, e.e. mynd i le penodol, yfed diod o ddŵr ac ati.
  • Ceisiwch ddarganfod sut mae'ch plentyn yn meddwl ac yn teimlo am sefyllfa fel y gallwch siarad amdani.
  • Helpwch eich plentyn i ddeall y gallai camddeall rhywbeth fod wedi arwain at y teimlad o ddicter.  Cymerwch amser i esbonio ffyrdd eraill o feddwl am yr hyn a ddigwyddodd.

Nodi Sbardunau Ymddygiad Heriol o Siart ABC - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

Defnyddio Rhaglenni Gwobrwyo gyda Phlant ag Awtistiaeth - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

Sut i helpu gydag ymddygiad eich plentyn awtistig - GIG (www.nhs.uk)

.

Bwyta ac yfed

Mae gan rai plant sensitifrwydd i rai bwydydd, gweadau a blas. Er enghraifft, efallai y byddant:

  • Yn bwyta deiet cyfyngedig oherwydd y lliw neu'r gwead.
  • Yn pigo bwyd neu'n bwyta gormod ar unwaith.
  • Yn bwyta pethau nad ydynt yn fwyd megis tywod a phaent o waliau (pica).
  • Yn cael problemau gyda chnoi a llyncu.
  • Yn cael problemau gyda rhwymedd sy'n effeithio ar eu chwant bwyd.

Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych yn poeni am sut mae'ch plentyn yn bwyta ac yn yfed.

Bwyta - canllaw i bob cynulleidfa (autism.org.uk)

 

Cynorthwyo gyda mynd i'r toiled

Gall hwn fod yn gyfnod anodd a llawn straen, mae rhai plant yn ei chael hi'n anodd dysgu sut i fynd i'r toiled oherwydd:

  • Oedi datblygiadol.
  • Anhawster cyfathrebu.
  • Anghenion synhwyraidd.
  • Anhawster deall arferion

Mae llawer o wefannau sy'n cynorthwyo gyda mynd i'r toiled ond rhai pethau i'w hystyried yw:

  • A ydy'ch plentyn yn barod i gael ei hyfforddi? A ydynt yn dangos arwyddion o fod yn barod?
  • Faint o help y mae arnynt ei angen wrth wisgo a dadwisgo?
  • Sut maent yn ymdopi â bod mewn toiled? Gartref? Yn gyhoeddus?

Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych yn poeni am arferion toiled eich plentyn neu berson ifanc.

Mynd i'r toiled gyda phlant awtistig - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

 

Problemau cysgu

Mae rhai plant awtistig yn ei chael hi'n anodd mynd i gysgu neu gallant ddeffro yn y nos.

Gall hyn fod oherwydd amrywiaeth o bethau gan gynnwys:

  • Bod yn or-bryderus.
  • Bod yn sensitif i olau.
  • Bod yn orfywiog.
  • Anghenion iechyd sy'n effeithio ar gwsg.

Gallwch helpu eich plentyn drwy:

  • Gadw dyddiadur cysgu / gwneud nodyn o batrymau
  • Cael arferion cyfarwydd - pyjamas -glanhau dannedd  -stori -gwely!
  • Osgoi amser sgrin 1-2 awr cyn amser gwely.
  • Mynd i'r gwely yr un pryd bob nos.
  • Sicrhau bod yr ystafell wely yn gymharol dywyll (yn dibynnu ar y plentyn neu'r person ifanc) a thymheredd tawel a chyfforddus - heb fod yn rhy boeth nac yn rhy oer.
  • Lleihau sŵn.
  • Cael teganau cyfarwydd, cysurus

Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych chi'n poeni am batrymau cysgu eich plentyn.

Anawsterau Cysgu mewn Plant ag Awtistiaeth - Awtistiaeth Cymru | Tîm Awtistiaeth Genedlaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Ebrill 2024