Toglo gwelededd dewislen symudol

ECO Flex

Cynllun y llywodraeth yw ECO Flex sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref megis system gwres canolog newydd, gwella'r system wresogi bresennol a/neu inswleiddio.

Cyn gwneud cais am Eco-Flex, gwiriwch gynllun Nyth, sy'n cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych chi'n gymwys, becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio.
Nyth Cymru (Yn agor ffenestr newydd) / rhadffôn 0808 808 2244

Yn Abertawe, nod y system yw cefnogi aelwydydd sy'n fwyaf tebygol o brofi tlodi tanwydd a'r rheini sy'n agored i effeithiau cartref oer.

Os ydych yn berchennog-preswyl neu'n rhentu'n breifat ac nid yw'ch cartref yn un ynni-effeithlon, mae'n bosib y gellid darparu arian i wella hyn. Byddai hyn hefyd yn fanteisiol gan y byddai eich biliau tanwydd yn is.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw waith, mae 3 chwmni a fydd yn gweinyddu'r cynllun ar ein rhan a gallwch ddewis unrhyw un i wneud y gwaith. Dylid cysylltu â'r tri chwmni hyn os oes gennych unrhyw ymholiadau am ECO Flex.

Ydych chi'n gymwys?

Yn gyntaf, bydd arnoch angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich eiddo. Bydd angen bod eich eiddo'n cael ei gynnwys ym mandiau D/E/F/G, yn anffodus nid yw bandiau A/B/C yn gymwys. Gallwch wirio a oes gennych EPC yn Find an energy certificate (gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd). Os nad oes gennych un, bydd eich cwmni ynni dewisol yn darparu un.

Er mwyn i chi fod yn gymwys, rhaid i un o'r pedwar llwybr a amlinellir isod fod yn berthnasol i chi:

Llwybr 1: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol â pherchennog preswyl ac aelwydydd E-G y sector rhentu preifat gydag incwm sy'n llai na £31,000. Mae'r terfyn hwn yn gymwys ni waeth beth yw maint, cyfansoddiad neu ardal yr eiddo.

Llwybr 2:  Aelwydydd bandiau E-G y Weithdrefn Asesu Safonol sy'n bodloni dau o'r procsis canlynol:

  1. Cartrefi yn narpariaeth Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is 1-3 Cymru ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (Yn agor ffenestr newydd)
  2. Deiliaid tai sy'n derbyn ad-daliad treth y cyngor (ad-daliadau yn seiliedig ar incwm isel yn unig, ac eithrio ad-daliad ar gyfer person sengl.)
  3. Deiliaid tai sy'n agored i niwed o ganlyniad i fyw mewn cartref oer, fel a nodwyd yn Arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dim ond un procsi o'r rhestr y gellir ei ddefnyddio, ac eithrio'r procsi 'incwm isel'.  
  4. Deiliad tŷ sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd incwm isel.
  5. Deiliad tŷ a gefnogir gan gynllun a gynhelir gan yr ALl, sydd wedi'i enwi a'i ddisgrifio gan yr ALl fel cynllun sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel ac agored i niwed at ddibenion Arweiniad NICE (ddim ar waith ar hyn o bryd).
  6. Aelwyd a atgyfeiriwyd i'r ALl am gymorth gan ei chyflenwr ynni neu Gyngor ar Bopeth oherwydd y nodwyd ei bod yn cael trafferth talu biliau trydan a nwy.

*Sylwer nid oes modd defnyddio procsis 1 a 3 gyda'i gilydd.  

Llwybr 3: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol â pherchennog preswyl ac aelwydydd E-G y sector rhentu preifat y nodwyd gan berson a gofrestrwyd ar y Gofrestr Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd yr Alban, Bwrdd Iechyd Cymru, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG neu Ymddiriedolaeth y GIG eu bod yn ddiamddiffyn, gyda phreswylydd y gall parhau i fyw mewn cartref oer gael effaith ar ei gyflyrau iechyd. Gall y cyflyrau iechyd hyn fod yn gardiofasgwlaidd, yn anadlol, yn imiwnoataliedig neu'n gysylltiedig â symudedd cyfyngedig.

Llwybr 4: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol â pherchennog preswyl ac aelwydydd E-G y sector rhentu preifat a atgyfeiriwyd dan Lwybr 4: Targedu Pwrpasol. Gall cyflenwyr ac ALlau gyflwyno cais i ESNZ os ydynt wedi nodi aelwyd incwm isel a diamddiffyn, nad yw eisoes yn gymwys dan y llwybrau presennol (ddim ar waith ar hyn o bryd).

Sut i wneud cais

Cysylltwch â'r cwmni o'ch dewis gyda'ch manylion. Byddant yn trefnu i ymweld â chi yn eich cartref. Byddant yn gofyn rhai cwestiynau ac yn cynnal arolwg i benderfynu a yw eich cartref yn addas ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Gwybodaeth am y cwmnïau

Dyma'r unig gwmnïau rydym wedi'u cymeradwyo i wneud unrhyw waith sy'n gysylltiedig ag ECO Flex.

City Energy Network (City Energy)

Cwmni ymgynghorol effeithlonrwydd ynni a gosodwr systemau yng Nghaerdydd ac Abertawe y mae ei ddatblygiadau'n parhau i osod y safon ymysg cyfoeswyr ac yn y diwydiant ynni.

Rydym wedi bod yn cyflwyno rhaglenni a ariennir ers 2011. Rydym yn cyflogi gweithlu a chadwyn gyflenwi â degawdau o brofiad yn y sectorau ynni, dulliau adnewyddadwy ac a ariennir ac wedi'n cydnabod a'n gwobrwyo'n lleol ac yn genedlaethol am hyn.

Fel cwmni, rydym yn falch o fod yn partneru â Chyngor Abertawe ar y cynllun hwn ac yn edrych ymlaen at ymwneud â safonau byw preswylwyr Abertawe a'u gwella.

Rydym hefyd yn gweithio gyda CES (Consumer Energy Solutions) a Evan Thomas & Sons i gyflwyno ECO Flex:

YES Energy Solutions

Mae gan YES Energy Solutions dros 19 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ynni cynaliadwy ac mae wedi rheoli rhai o brosiectau effeithlonrwydd ynni cartref mwyaf y DU.

Tyfodd YES Energy Solutions, a sefydlwyd yn 2000 fel isadran o Gyngor Kirklees, yn gyflym a daeth yn Gwmni Budd Cymunedol annibynnol yn fuan.

Brandiwyd y cwmni'n flaenorol fel Yorkshire Energy Services, ac rydym bellach yn gweithredu'n genedlaethol ac yn parhau i gefnogi llu o awdurdodau lleol, sefydliadau tai a sefydliadau ar brosiectau lleihau carbon. Rydym hefyd yn gweithio'n uniongyrchol â Chwmnïau Ynni i'w helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau amgylcheddol.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Towy Valley Heating a C&T ECO Consultants i gyflwyno ECO Flex:

E.ON

E.ON yw un o gwmnïau ynni pennaf y DU. Fel un o'r cyflenwyr ynni sy'n gyfrifol am gyflwyno'r cynllun arbed ynni, Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO), a arweinir gan y llywodraeth, mae gan E.ON brofiad helaeth o ariannu mesurau effeithlonrwydd ynni a'u gosod mewn cartrefi preifat a chymdeithasol.

Dros y pedair blynedd diwethaf ar draws Cymru, mae E.ON wedi darparu bron £35 miliwn mewn cyllid sydd wedi arwain at bron 14,790 o gartrefi'n derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni. Rydym bellach yn falch o fod yn gweithio gyda Cyngor Abertawe a'i bartneriaid i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ledled y ddinas a'r sir.

E.ON - grant finder (Yn agor ffenestr newydd)
Tel: 0333 2024422

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r cwmnïau canlynol i gyflwyno ECO Flex:

  • Eager Partnership C/O Richard Nicholson, Eon Energy, Trinity House, Nottingham NG1 4BX
  • LD ECO Bay View Offices, Llanelli, SA14 8SN
Close Dewis iaith