Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Mabwysiedig 2010-2025

Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe 2010-2025 ar 28 Chwefror 2019. O dan ddarpariaethau'r Ddeddf Cynllunio (Cymru), mae'r CDLl yn rhan o'r cynllun datblygu statudol ar gyfer Cyngor Abertawe. Caiff ei ddefnyddio fel y brif ystyriaeth hanfodol i gyfeirio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a chynigion datblygu.

Mae CDLl Abertawe yn gynllun blaengar ac uchelgeisiol sy'n hyrwyddo agenda creu lleoedd gref sy'n gyson ag amcanion llesiant Llywodraeth Cymru.  Mae'r cynllun yn cyflwyno ymagwedd gadarnhaol at reoli a hybu twf a darparu'r isadeiledd ategol y mae ei angen i fod yn sail i'r holl newid trawsffurfiol y disgwylir i Abertawe ei brofi fel dinas yng nghanol Dinas-ranbarth Bae Abertawe.  

LDP proposals map (Yn agor ffenestr newydd) 

Mae'r cynllun yn cynnwys fframwaith monitro a fydd yn mesur effeithiolrwydd polisïau'r cynllun ac yn cyfeirio Adroddiadau Monitro Blynyddol.

Gellir lawrlwytho CDLl Abertawe isod.  Mae'r ddogfen yn disgrifio holl bolisïau a chynigion y cynllun, ac mae hefyd yn cynnwys Map Cynigion y CDLl. Gellir lawrlwytho fersiynau hynod eglur o bob map ar wahân isod.

Gellir prynu copïau caled o CDLl Abertawe am £50.

Mae polisïau gofodol y CDLl a gyDatganiad Ysgrifenedig Rhyngweithiol CDLl Abertawenhwysir ar y Map Cynigion wedi'u cynhyrchu'n ddigidol gan ddefnyddio data Mapio'r Arolwg Ordnans (Rhif y drwydded: 100023509). Er bod y data wedi'i arolygu i fanyleb yr Arolwg Ordnans a safonau cyhoeddi cywir, mae'n bosib y bydd achlysuron lle nad yw ffin y map yn adlewyrchu'n gywir yr hyn sydd ar y ddaear yn ffisegol. 

Dogfennau Ategol y CDLl: Ategir y CDLl gan ddwy ddogfen allweddol sy'n llawn gwybodaeth. Er nad ydynt yn rhan o'r cynllun statudol, maent yn nodi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn y CDLl a/neu gallant fod yn ystyriaethau pwysig wrth ystyried ceisiadau cynllunio. Disgrifir y rhain isod:

Lle penderfynir ar ddynodiadau gan ddulliau neu gyrff eraill, ni chânt eu dangos ar Fap Cynigion y CDLl. Yn hytrach, cânt eu cynnwys ar y Map Cyfyngiadau a Materion sydd ar gael ar wahân. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud newidiadau na chânt eu pennu gan y cynllun yn hawdd yn ystod cyfnod y cynllun.

Daw'r wybodaeth a ddangosir ar y Map Cyfyngiadau a Materion o ffynonellau niferus a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. Lle bo gwybodaeth newydd wedi'i darparu, efallai bydd cyfnod o amser pan nad yw'r data diweddaraf yn cael ei ddangos ar y map. Cynghorir defnyddwyr i wirio'r ffynhonnell wreiddiol i gael yr wybodaeth fwyaf cyfoes. Dylid sylwi fodd bynnag nad yw pob cyfyngiad na mater a allai effeithio ar benderfyniadau ar gais cynllunio'n cael ei ddangos ar y map, gan gynnwys ardaloedd o dir comin, meysydd pentref a choed sy'n destun gorchmynion cadw. Ni ellir dal y cyngor yn gyfrifol os caiff unrhyw wybodaeth ei chamddefnyddio neu ei chamddehongli ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, difrod neu drafferth a achosir o ganlyniad i ddibyniaeth ar y mapio.

Cynllun Datblygu Isadeiledd

Cynllun Datblygu Isadeiledd (PDF) [1MB]

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2022