Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cais i wneud newid parhaol i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus

Y cam cyntaf i wneud newid i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yw cyflwyno cais sy'n seiliedig ar ba fath o newid hoffech chi ei wneud.

 

Dargyfeirio

Gall perchnogion tir wneud cais i ni am ddargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus sy'n mynd ar draws eu tir. Codir ffi weinyddol i dalu costau llawn creu'r gorchymyn ac unrhyw waith cysylltiedig.

Mae'n amlwg bod nifer o gamau yn y broses (rhai gydag amserlenni penodol) felly gall gymryd amser maith i ddargyfeirio neu ddiddymu Hawl Tramwy Cyhoeddus. Hefyd, nid oes sicrwydd y bydd cais yn llwyddo.

Addasu

Hawliad Hawliau Tramwy

Gall aelodau'r cyhoedd gyflwyno cais i ychwanegu llwybr at y Map Diffiniol, a gelwir hyn yn 'hawliad'. Proses gyfreithiol yw hon sy'n cael ei llywodraethu gan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Mae hyn fel arfer yn cynnwys ychwanegu llwybrau at y rhwydwaith oherwydd nad yw llwybr cerdded neu lwybr ceffyl ar y Map Diffiniol ond mae tystiolaeth yn awgrymu y dylai fod. Fodd bynnag, gellir gwneud gorchmynion addasiadau hefyd i newid neu ddileu llwybrau cerdded neu lwybrau ceffyl o'r Map Diffiniol.

Pan fydd hawliad wedi'i dderbyn, bydd angen i'r cyngor benderfynu ar yr hawliad trwy asesu'r dystiolaeth a ddarperir gan yr hawlwyr, sydd fel arfer ar ffurf datganiadau gan bobl sydd wedi defnyddio'r llwybr. Rhaid i dystiolaeth gan ddefnyddwyr ddangos bod y llwybr wedi'i ddefnyddio gan y cyhoedd am o leiaf 20 mlynedd, er nad yw'n angenrheidiol i ddangos bod pob hawliwr wedi defnyddio'r llwybr am 20 mlynedd.

Ffurflenni ar gyfer hawlio hawl tramwy cyhoeddus (Word doc) [1MB]

Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflenni hawlio hawl tramwy cyhoeddus (Word doc) [131KB]

Datganiad o dystiolaeth defnyddiwr hawl tramwy cyhoeddus (Word doc) [99KB]

Diddymu

Mae diddymiadau'n brin iawn ond maent yn dilyn gweithdrefn debyg i ddargyfeiriadau. Os hoffech gyflwyno cais am orchymyn dargyfeirio, cysylltwch â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad.

Close Dewis iaith