Chwarae i'r teulu
Dod a theuluoedd ynghyd drwy chwarae.
Mae'r Gweithwyr Datblygu Chwarae Teulu yn cynnig y cyfleoedd canlynol:
Stepping in to play (cwrs)
Dyma gyfle i dreulio amser yn archwilio sut i wneud amser gyda'ch teulu'n fwy o hwyl. Mae'n gwrs 6 sesiwn yn llawn syniadau, gweithgareddau a gemau i ysbrydoli teuluoedd i chwarae! Trwy gydol y cwrs byddwn yn edrych ar bwysigrwydd chwarae a sut gellir ei ddefnyddio i gryfhau teuluoedd, magu cadernid a gwella lles teuluoedd.
Sesiynau chwarae i'r teulu
Mae hwn yn gyfle i gael profiad chwarae unigryw i'r teulu cyfan! Mae hwn yn gyfle i deuluoedd brofi manteision chwarae.
Bagiau chwarae i'r teulu
Bag gwych yn llawn syniadau chwarae - i fynd ag ef adref a'i archwilio gyda'ch teulu. Y tu mewn, ceir detholiad cyffrous o eitemau gyda syniadau creadigol i chi chwarae gyda nhw. Mae'r holl eitemau hyn ar gael yn y cartref ac am ddim.
Sut gallwn eich helpu a / neu eich defnyddiwr gwasanaeth:
Gellir ein defnyddio gydag ystod o grwpiau targed. Gallwn hefyd gynnig teithiau tywys i deuluoedd i adnoddau chwarae lleol, gan gynnwys parciau a thraethau, i gefnogi teuluoedd i ddefnyddio eu mannau chwarae lleol.
Os oes diddordeb gennych, cysylltwch a'r gweithwyr Datblygu Chwarae i Deuluoedd (isod) i gael mwy o wybodaeth.
Kelly Wake - Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu
- Enw
- Kelly Wake
- Teitl y Swydd
- Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu
- E-bost
- kelly.wake@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635156
- Rhif ffôn symudol
- 07825 401746
Liz Malinowska - Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu
- Enw
- Liz Malinowska
- Teitl y Swydd
- Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu
- E-bost
- elizabeth.malinowska@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 635156