Toglo gwelededd dewislen symudol

Chwilio cofnodion mynwentydd ac amlosgfeydd dinesig

Rydym yn gallu derbyn ceisiadau er mwyn chwilio'n cofnodion mynwentydd ac amlosgfeydd dinesig i gael manylion claddedigaethau a gafwyd.

Caiff ein cofnodion claddedigaethau ac amlosgiadau eu defnyddio'n barhaus gan ein staff i drefnu angladdau'n ddyddiol ac i ymdrin â materion gweithredol amrywiol. Lle bo modd, byddwn yn ymdrin â cheisiadau am chwiliadau claddedigaethau/amlosgfeydd. Rhaid i'r wybodaeth fod mor gywir â phosib oherwydd gall chwiliadau gymryd llawer o amser ac ni allwn warantu pryd bydd yr wybodaeth ar gael.

Sut i chwilio'n cofnodion

Os hoffech wybodaeth am gladdedigaeth neu amlosgiad penodol, cwblhewch y ffurflen cais i chwilio am fedd/amlosgiad unigol. Ni allwn dderbyn degawd fel dyddiad marwolaeth; rhaid i chi ddarparu blwyddyn marwolaeth benodol a byddwn yn cynnal chwiliad o'r flwyddyn cyn ac ar ôl y dyddiad hwnnw. Os nad ydych yn gwybod union ddyddiad y farwolaeth, bydd angen i chi wirio gyda'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol cyn cyflwyno cais i ni.

Gwneud cais i chwilio am fedd/amlosgiad unigol Gwneud cais i chwilio am fedd/amlosgiad unigol

Ffïoedd

Chwilio am fedd / amlosgiad unigol (gwasanaeth safonol) = £12.00 y chwiliad

Cynhelir chwiliad cyn gynted â phosib a bydd yr holl wybodaeth y deuir o hyd iddi'n cael ei darparu drwy e-bost.

 

Os ydych chi'n yn ceisio dod o hyd i fedd, gallwch lawrlwytho mapiau mynwent maint A4 neu ofyn am gopi o'n swyddfa weinyddu. Gallwch hefyd gysylltu â staff y fynwent/amlosgfa, fel y gellir gwneud apwyntiadau addas ar gyfer dod o hyd i feddau/erddi ar y safle.

Yn anffodus, ni all aelodau'r cyhoedd gynnal eu hymchwil eu hunain yn ein swyddfa claddedigaethau ac amlosgiadau.Gall aelodau'r cyhoedd gael mynediad at Archifau yn y Ganolfan Ddinesig.