Clogwyni Langland
Ceir llwybrau troed ar hyd y clogwyni gyda golygfeydd pleserus a bywyd gwyllt diddorol yn y darnau o laswelltir calchaidd a rhos. Mae'r ardal hon yn agos i Warchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls.
Uchafbwyntiau
Cadwch lygad am adar megis y llwydfron, y llinos a chlochdar y cerrig. Mae'r clogwyni hefyd yn gynefin addas i'r wiber, y ddallneidr a'r fadfall, y mae pob un ohonynt yn rhywogaethau a warchodir.
Dynodiadau
- Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN Bae Langland i Ben y Mwmbwls)
Cyfleusterau
- Caffi/bwyty ym Mae Langland
- Maes parcio (talu ac arddangos) ym Mae Langland a Limeslade
- Caffi yn Limeslade
Gwybodaeth am fynediad
Cyfeirnod Grid SS618870
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Gellir cyrraedd y clogwyni ar hyd llwybr troed o Langland, Thistleboon (y Mwmbwls) a Limeslade.
Llwybrau troed
Ceir llwybrau traed ar hyd y clogwyni rhwng Langland a Limeslade.
Ceir
Parcio ym Mae Langland a Limeslade, talu ac arddangos yn y ddau.
Bysus
Mae'r safleoedd bws agosaf yn Limeslade neu ar ben Heol Langland.