Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob
Mae Coed yr Esgob yn enghraifft glasurol o goetir calchfaen, sy'n weddol brin ym Mhrydain. Mae rhan o'r coed wedi ei dynodi'n goetir hynafol oherwydd ei bod yn ardal goediog ers yr ail ganrif ar bymtheg o leiaf, fel y nodwyd yn arolwg 1673 o Faenor Llandeilo Ferwallt.
Dynodiadau
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
Gwybodaeth am fynediad
Mae Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob uwchben Bae Caswell.
Llwybrau Cerdded
Mae nifer o lwybrau cerdded yn arwain at y warchodfa, gan gynnwys llwybr arfordirol o'r Mwmbwls i Fae Caswell.
Ceir
Ceir dau faes parcio talu ac arddangos ac mae gwasanaeth bws rheolaidd (2) yn teithio o ganol Abertawe i Rodfa Caswell.