Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru triniwr gwallt

Os oes gennych gwmni trin gwallt neu farbwr, dylech fod wedi cofrestru gyda ni. Mae hyn yn wir am siopau a busnesau teithiol.

Efallai y byddwn yn archwilio'ch eiddo os ydych wedi gwneud cais er mwyn gwirio ei fod yn bodloni canllawiau iechyd a diogelwch.  Cewch archwiliad rheolaidd ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo.

Os ydych yn cynnig gwasanaethau eraill megis tyllu clustiau, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru tyllu croen hefyd.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cofrestru'ch busnes trin gwallt/barbwr ar-lein Cofrestru'ch busnes trin gwallt/barbwr ar-lein

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r cais.  Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen.

Cydsyniad mud

Mae gennym gyfnod cwblhau targed, sef 40 niwrnod ar gyfer yr hysbysiad hwn.  Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn.  Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 40 niwrnod, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.

Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau ar ôl cael cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol a thâl.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith