Toglo gwelededd dewislen symudol

Pam na chasglwyd fy sach? Arweiniad ailgylchu a gwastraff i fyfyrwyr

Os na chaiff eich sach ei chasglu erbyn 4.00pm ar y diwrnod casglu ac/neu rydych yn darganfod sticer du a melyn arni, nid ydym wedi gallu ei chasglu am reswm.

  • Rydych wedi rhoi deunydd yn y sach anghywir - edrychwch ar y disgrifiad ar y sach neu yn eich arweiniad ailgylchu i'ch atgoffa o'r hyn sy'n cael ei gasglu a'r hyn nad yw'n cael ei gasglu
  • Mae papur a cherdyn wedi'u cymysgu yn yr un sach â metel a gwydr - mae'n rhaid rhoi papur a cherdyn (gyda'i gilydd) mewn sach ar wahân i fetel a gwydr (gyda'i gilydd)
  • Mae'r sach wedi'i rhoi allan ar y diwrnod neu wythnos gasglu anghywir - edrychwch ar eich amserlen bob amser
  • Mae'r sach yn fwy na'r terfyn pwysau/maint - uchafswm o 15kg
  • Mae mwy na thair sach ddu wedi cael eu rhoi allan i'w casglu - cadwch at 3!

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, yn enwedig pan fyddant yn defnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn symud unrhyw sachau nad ydynt wedi cael eu defnyddio yn y modd cywir oddi wrth ymyl y ffordd cyn gynted â phosib i'w cadw a/neu eu didoli i baratoi at y casgliad nesaf.

Os nad ydych yn eu symud nhw erbyn y diwrnod ar ôl eich casgliad, byddant yn cael eu clirio gan ein tîm glanhau'r stryd a gallech dderbyn Hysbysiad o Gosb Benodol gwerth £100! Nid yw hon yn ffordd ddelfrydol o nodi'ch amser yn Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mai 2021