Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Yr hyn rydym yn ei gasglu a phryd - ailgylchu a gwastraff myfyrwyr

Dysgwch am yr hyn y gallwch ei adael ar ymyl y ffordd a phryd y bydd yn cael ei gasglu.

Beth rydym yn ei gasglu?

Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o'r gwastraff rydych yn ei greu yn y cartref trwy ddefnyddio'r bag neu'r bin cywir. Lawrlwythwch ein  arweiniad ailgylchu i fyfyrwyr (PDF, 826 KB) am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y gorau o'r gwasanaeth hwn.

Casglu sachau gwyrdd - ar gyfer papur a cherdyn (gyda'i gilydd) mewn un bag a metel a gwydr (gyda'i gilydd) mewn bag arall.

Casglu sachau pinc - ar gyfer poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig.

Casglu gwastraff bwyd - ar gyfer POB gwastraff bwyd gan gynnwys, crafiadau plât, bwyd wedi'i a heb ei goginio, cig, esgyrn, bagiau te, bwyd sydd wedi dyddio a mwy.

Casglu sachau du - ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu'n unig megis plastigion meddal, pecynnau creision, hancesi wedi'u defnyddio a pholystyren. 

Byddwn yn casglu 3 sach ddu ar y mwyaf o bob eiddo bob pythefnos felly mae'n bwysig eich bod chi'n ailgylchu'r holl eitemau a dderbynnir i'w cadw i'r terfyn hwn. Os rydych yn byw mewn aelwyd sydd â nifer mawr o bobl, e.e. dros 6, ac rydych yn ei chael hi'n anodd cadw at yr uchafswm hwn oherwydd swm y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu, yna gallwch gysylltu â ni i holi am gael eich eithrio, a fydd yn eich galluogi i roi sachau ychwanegol allan.

Peidiwch â rhoi unrhyw wastraff bwyd yn eich sachau du. Bydd hyn yn peri i'ch sachau ddrewi a denu plâu megis gwylanod a fydd yn eu rhwygo gan greu llanast ar eich stryd - nid yw hon yn ffordd dda o wneud argraff dda ar eich cymdogion!

Diwrnodau casglu

Rhennir casgliadau yn Abertawe yn wythnosau gwyrdd a phinc/du gyda sachau a bagiau gwahanol yn cael eu casglu bob pythefnos. Cesglir gwastraff bwyd bob wythnos.

Os rydych yn byw mewn fflat y mae ganddi finiau mawr ag olwynion ar gyfer eich deunydd ailgylchu a'ch sachau du, yna nid oes rhaid i chi boeni am y diwrnodau casglu.

Os rydych yn byw yn Brynmill, Uplands, Mount Pleasant neu Sandfields, eich diwrnod casglu yw dydd Mercher. Gallwch ddod o hyd i amserlen gasglu ar gyfer eich ardal yn ein harweiniad ailgylchu i fyfyrwyr (PDF, 826 KB).

Os rydych yn byw mewn ardal wahanol, defnyddiwch ein chwiliad casgliadau ailgylchu a sbwriel i ganfod eich diwrnod casglu a lawrlwytho amserlen gasglu.

Rhowch fagiau a biniau allan ar ymyl y palmant o flaen eich eiddo ar ôl 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu fel eu bod yn barod i'n criwiau gasglu o 6.00am y bore canlynol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2021