Comin Llangyfelach
Mae ganddo hanes o gloddio am lo gyda thomen ysbail fach a thramffordd yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif. Mae ardal y domen yn gysylltiedig â hen waith tunplat Felindre.
Er nad yw'n safle arbennig o hardd, mae'n fuddiol i fywyd gwyllt. Ceir planhigion megis plu'r gweunydd, blodau'r brain, eithin y mynydd, tegeirianau, tresgl y moch a charwas troellog, ynghyd ag ymlusgiaid megis y wiber, y fadfall a'r neidr ddefaid. Cadwch lygad am adar megis y fronfraith, y llinos, y fwyalchen, clochdar y cerrig a'r cudyll coch.
Dynodiadau
- Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN - Comin Llangyfelach)
Cyfleusterau
- Mae'r cyfleusterau agosaf yn Llangyfelach
Gwybodaeth am fynediad
Trwy Gyffordd 46 yr M4
Cyfeirnod Grid SS648994
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Llwybrau
Llwybrau ar draws y safle
Bysus
Mae'r safleoedd bysus agosaf yn Llangyfelach neu'r safle Parcio a Theithio ger pen gogleddol y comin.