Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025
Rydym yn awr yn gwahodd ceisiadau i Gronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025.
Rydym yn chwilio am geisiadau gan ddarparwyr chwarae newydd a phresennol sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel.
Rydym yn chwilio am geisiadau gan ddarparwyr gofal plant a chwarae newydd a phresennol sydd wedi ystyried eu sefyllfa ariannolac sydd angen cymorth cynaladwyedd i barhau i ddarparu cyfleoedd gofal plant a chwarae o ansawdd uchel.
Gwybodaeth am y gronfa
Mae Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024/2025 yn gronfa sefydledig sy'n ceisio creu, cefnogi a chynnal cyfleoedd gofal plant a chwarae yn Abertawe. Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr cofrestredig ac anghofrestredig.
Argaeledd y gronfa
Gellir gwneud cais am uchafswm o £5,000 ar gyfer unrhyw gais (£2,000 ar gyfer gwarchodwr plant) Dan amgylchiadau eithriadol yn unig y dyfernir symiau dros y swm hwn mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i'r cyllid a ddyfarnwyd gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2025. Mae swm cyfyngedig o gyllid ar gael. Nid yw ceisiadau wedi'u gwarantu a chânt eu blaenoriaethu yn erbyn meini prawf yn unol â Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025 - amodau'r grant.
Gallwch e-bostio'r tîm yn fis@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio.
Mae staff hefyd ar gael dros y ffôn:
Swyddogion Cefnogi Gwasanaethau ar gyfer pob ymholiad
Leanna Cresci Swyddog Cefnogi Gwasanaethau ar gyfer ymholiadau Chwarae: 07873 308004