Cronfeydd Dŵr Lliw Isaf ac Uchaf
Mae cronfeydd dwr Lliw isaf ac uchaf wedi'u hamgylchynu gan frithwaith o gynefinoedd gan gynnwys rhedyn, coetir llydanddail prysgwydd a glaswelltir asidig iseldir, sef cynefin blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth. Mae'r ddau safle'n cynnal amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion, gyda llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn brin. Ymhlith yr adar a welwyd ar y safle mae'r hebog tramor, y cudyll coch, y gigfran, tinwen y garn, corhedydd y waun, yr ehedydd, crec yr eithin, y barcud coch a'r gylfinir.
Dynodiadau
- Safleoedd o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 311 a 317)
Cyfleusterau
- lliwreservoirs.com (Yn agor ffenestr newydd)
- Maes parcio ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf (tan 6.00pm bob dydd, mae ffïoedd yn berthnasol)
- Toiledau cyhoeddus ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
- Safle picnic ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
- Caffi/canolfan ymwelwyr ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
- Tafarn yn Felindre - Shepherd's Country Inn
Hygyrchedd
Llwybr yn hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio am 4 milltir.
Gwybodaeth am fynediad
Ger Felindre, Abertawe
Cyfeirnod Grid SN653035 a SN662063
Map Explorer yr AO 165 Abertawe
Mynediad i Gronfa Ddŵr Isaf.
Llwybrau
Mae llwybrau hamdden o gwmpas y cronfeydd dŵr gan gynnwys llwybr 4 milltir ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf. Mae taith gerdded boblogaidd i Gronfa Ddŵr Lliw Uchaf sy'n rhan o Lwybr Gŵyr.
Ceir
Mae maes parcio ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf. O Gyffordd 46 yr M4, teithiwch i'r gogledd tuag at Felindre ac yna dilynwch yr arwyddion i'r gronfa ddŵr. Does dim mynediad i gerbydau i ymwelwyr o'r gronfa ddŵr isaf i'r gronfa ddŵr uwch. Mae traffig yn gyfyngedig i staff Dŵr Cymru, preswylwyr Lliw a danfoniadau.
Bysus
Y safle bws agosaf yw safle ar gais ar waelod y rhodfa i Gronfa Ddŵr Lliw Isaf sydd oddeutu milltir o hyd.