Toglo gwelededd dewislen symudol

Gohirio taliadau a bod yn berchen ar eich cartref eich hun

Gohirio taliadau ar gyfer ffioedd cartref gofal pan rydych yn berchen ar eich cartref eich hun.

Sut caiff fy ngallu i dalu ei asesu?

Beth yw diystyru eiddo am 12 wythnos?

Beth os na fyddaf yn gwerthu fy nhŷ o fewn 12 wythnos?

Beth os nad wyf yn dymuno gwerthu fy nhŷ nawr?

Sut mae'r cynllun gohirio taliadau'n gweithio?

Beth am log?

Oes hawl gennyf i rentu fy eiddo?

Sut byddaf yn gwybod faint o arian sy'n ddyledus gennyf?

Terfynu'r cytundeb ac ad-dalu'r benthyciad

Beth arall dylwn i ei ystyried?

Cyngor annibynnol

 

Sut caiff fy ngallu i dalu ei asesu?

Os gofynnwch i'r Gwasanaethau Cymdeithasol eich helpu gyda chost eich ffioedd cartref gofal, byddwn yn cynnal asesiad ariannol. Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, efallai y bydd rhaid i ni ystyried ei werth. Os nad oes gennych incwm neu gynilion neu asedau eraill digonol i dalu'r ffioedd cartref gofal yn llawn, efallai y bydd rhaid rhyddhau'r cyfalaf yn eich cartref er mwyn talu'r ffioedd. Yn aml, mae hyn yn golygu bod rhaid i chi werthu'ch cartref.

I rai pobl, gall fod yn anodd penderfynu beth i'w wneud â'u cartref ar yr un pryd â symud i gartref gofal. Rhoddwyd y ddau drefniant arbennig hyn ar waith er mwyn cynorthwyo pobl yn y sefyllfa hon.

Beth yw diystyru eiddo am 12 wythnos?

Am y 12 wythnos gyntaf ar ôl i chi symud i ofal preswyl yn barhaol, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn anwybyddu gwerth eich cartref wrth gyfrifo'r swm y bydd gofyn i chi ei gyfrannu at gostau'ch gofal, ar yr amod nad yw'ch cyfalaf (ac eithrio gwerth eich cartref) yn fwy na £50,000.

Yn ystod y 12 wythnos hyn, asesir y cyfraniad y gofynnir i chi ei wneud ar sail eich incwm, cynilion ac unrhyw asedau eraill sydd gennych yn unig. Bydd y Gwasnaethau Cymdeithasol yn talu'r gwahaniaeth rhwng eich cyfraniad a chost lawn y gofal. Nid benthyciad na thaliad gohiriedig yw hyn ac ni fydd disgwyl i chi ad-dalu'r arian hwn nes ymlaen. Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu'ch cartref yn ystod y 12 wythnos, ni fydd y rheol diystyru'n berthnasol o'r dyddiad gwerthu.

Beth os na fyddaf yn gwerthu fy nhŷ o fewn 12 wythnos?

Ar ôl 12 wythnos, caiff gwerth eich cartref ei ystyried wrth gyfrifo'r swm y dylech ei dalu at eich ffioedd, hyd yn oed os nad yw'r tŷ wedi'i werthu. Fodd bynnag, sylweddolwn y gall gymryd mwy na 12 wythnos i werthu tŷ a chael yr arian gan y prynwr.

Os yw'ch tŷ ar y farchnad ond heb ei werthu erbyn diwedd y cyfnod diystyru eiddo 12 wythnos, mae'n bosib y gallem ddod i gytundeb â chi i dalu'r rhan o'ch cyfraniad sy'n ymwneud â'ch eiddo ar eich rhan dros dro nes y caiff ei werthu. Pan fyddwch yn derbyn tâl am eich tŷ, byddai'n rhaid i chi addalu'r swm ychwanegol y gwnaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ei dalu tuag at eich costau gofal o ddiwedd y 12 wythnos i'r adeg y cwblheir gwerthiant eich tŷ.

Beth os nad ydw i am werthu fy nhŷ nawr?

Os nad oes gennych gynlluniau uniongyrchol i werthu eich tŷ, efallai y gallwch ymrwymo i Gytundeb Taliadau Gohiriedig â'r cyngor. Os ydych yn dymuno gwneud trefniadau o'r fath, cysylltwch â'r Tîm Incwm ac Arian Gofal Cymdeithasol cyn diwedd y cyfnod diystyru 12 wythnos. Os na wneir unrhyw drefniadau, gallech fod yn atebol am gost lawn eich ffioedd.

Byddai hyn yn golygu y gallwch ohirio'r rhan o'ch cyfraniad tuag at gost gofal preswyl sydd o ganlyniad i'ch perchnogaeth o'r eiddo tan ryw adeg yn y dyfodol - a allai fod ar ôl eich marwolaeth - yn gyfnewid am ganiatáu i'r cyngor gymryd rheolaeth gyfreithiol o'ch eiddo. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyngor yn gwneud taliadau tuag at eich ffioedd cartref gofal. Fodd bynnag, bydd rhaid i chi gyfrannu tuag at y costau gofal o hyd a asesir drwy ystyried eich incwm ac unrhyw gyfalaf arall sydd gennych.

Sut mae'r cynllun gohirio taliadau'n gweithio?

Er mwyn manteisio ar y Cynllun Taliadau Gohiriedig bydd rhaid i bob un o'r canlynol fod yn berthnasol i chi:

  • Nid oes gennych gynilon neu asedau eraill sy'n fwy na £50,000.
  • Nid oes gennych incwm arall i'ch galluogi i dalu costau'ch gofal.
  • Mae gennych fuddiant llesiannol yn eich eiddo h.y. os caiff yr eiddo ei werthu, byddwch yn derbyn swm o arian.
  • Nid oes morgais heb ei dalu, neu bydd gweddill y morgais yn gadael digon o arian i chi allu talu cost y gofal.

Yna bydd rhaid i chi gyflwyno cais i'r cyngor er mwyn cael eich ystyried am Gytundeb Taliad Gohiriedig. Os ydym yn cytuno i'ch cais, bydd rhaid llunio dogfen gyfreithiol ffurfiol sy'n rhoi rheolaeth gyfreithiol i'r cyngor o'ch eiddo a fydd yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw fudd neu dâl arall ar yr eiddo. Mae hyn yn golygu na chaniateir gwerthu'ch eiddo na'i drosglwyddo i rywun arall heb i ni gael cyfle i adennill y swm rydym wedi'i fenthyca i chi.

Bydd rhaid i chi hefyd dalu unrhyw gostau eraill sydd ynghlwm wrth sefydlu Cynllun Taliadau Gohiriedig ar gyfer eich eiddo, megis ffioedd cyfreithiol a phrisio. Byddwn yn eich hysbysu o'r costau hyn ar yr adeg rydym yn cytuno i dâl gohiriedig. Nid oes rhaid talu'r costau hyn ymlaen llaw, ond cânt eu hychwanegu at y swm terfynol i'w ad-dalu.

Gallwch ohirio costau hyd at swm gwerth cyfalaf eich eiddo'n unig. Unwaith y cyrhaeddir y lefel hon, ni ellir gohirio mwy wedi hynny.

Beth am log?

Ar hyn o bryd, ni chodir unrhyw log yn ystod y cyfnod y gohirir taliadau. Fodd bynnag, mae hyn yn cael ei adolygu a gellir codi llog yn y dyfodol.

Byddwn yn cadarnhau'r trefniadau o ran talu llog ac, os yw'n berthnasol, y gyfradd a fydd yn berthnasol ar yr adeg rydym yn cytuno i dâl gohiriedig. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn y ddogfen gyfreithiol ffurfiol a lunnir rhyngoch chi a'r cyngor

Oes hawl gennyf i rentu fy eiddo?

Oes, cewch rentu'ch eiddo a defnyddio'r incwm net o'r rhent fel cyfraniad at eich ffioedd cartref gofal. Bydd hyn yn lleihau'r swm y byddai angen ei ad-dalu ar ddiwedd y cyfnod gohirio. Fodd bynnag, gallai'r incwm ychwanegol effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau a dylech geisio cyngor ariannol cyn ystyried yr opsiwn hwn.

Sut byddaf yn gwybod faint o arian sy'n ddyledus gennyf?

Bob chwe mis, byddwn yn anfon datganiad ysgrifenedig atoch. Bydd hwn yn cadarnhau swm y costau gofal sydd wedi'u gohirio, unrhyw log a chostau gweinyddol sy'n berthnasol hyd yn hyn a'r cyfanswm sy'n ddyledus. Bydd hefyd yn rhoi amcangyfrif o'r ecwiti sydd ar ôl yn eich cartref nad yw wedi cael ei osod yn erbyn eich ffioedd gofal cartref eto.

Mae eich incwm a ffioedd eich cartref gofal yn debygol o newid bob blwyddyn. Fel arfer mae hyn yn golygu y bydd swm eich benthyciad yn cynyddu. Byddwn yn eich hysbysu'n ysgrifenedig o unrhyw newidiadau. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid i'ch incwm neu gyfalaf / gynilion.

Terfynu'r cytundeb ac ad-dalu'r benthyciad

Gallwch derfynu'r cytundeb ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i ni eich bod yn dymuno gwneud hynny ac ar ba ddyddiad rydych am i'r cytundeb ddod i ben. Ar yr adeg honno, byddai'n rhaid i chi dalu'r swm sy'n ddyledus yn llawn a dylech gysylltu â ni i ofyn am ddatganiad cyfredol o faint sy'n ddyledus gennych.

Os ydych yn penderfynu gwerthu'r eiddo, dylech roi gwybod i'r cyngor. Yna bydd rhaid i chi dalu'r swm sy'n ddyledus yn llawn o enillion y gwerthiant.

Os yw'r cytundeb ar waith o hyd pan fyddwch yn marw, byddwn yn anfon anfoneb at eich perthynas agosaf yn cadarnhau'r swm terfynol sy'n ddyledus. Rydym yn disgwyl taliad o fewn 90 diwrnod i ddyddiad eich marwolaeth.

Unwaith y telir y swm sy'n ddyledus yn llawn, byddwn yn ildio'n rheolaeth o'r eiddo ac yn rhoi cadarnhad ysgrifenedig o hynny.

Beth arall dylwun i ei ystyried?

Yn ystod y cyfnod o ohirio'r taliadau rydym yn disgwyl i chi gymryd yswiriant ar gyfer adeiledd eich eiddo a sicrhau y caiff ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da.

Os caiff yr eiddo ei adael yn wag gan eich bod mewn cartref gofal, mae'n bosib na chodir Treth y Cyngor am yr eiddo. Os oes rhywun arall yn byw yn yr eiddo, mae'n bosib na fydd yr eithriad hwn yn berthnasol. Fodd bynnag, dylech gysylltu ag Is-adran Treth y Cyngor i drafod y swm y mae'n rhaid ei dalu.

Dylai unrhyw un sy'n bwriadu gweithredu fel cynrychiolydd ar ran person sy'n dymuno gwneud cais am Gytundeb Taliadau Gohiriedig sicrhau bod ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i wneud hynny. Byddai hyn yn drefniant a gydnabyddir yn gyfreithiol megis pŵer atwrnai arhosol / pŵer atwrnai parhaus / dirprwyaeth. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y gwedudalen Gov.uk ganlynol: gov.uk/lasting power of attorney (Yn agor ffenestr newydd), gall Cyngor Ar Bopeth hefyd roi cyngor i chi.

Cyngor annibynnol

Argymhellwn yn gryf eich bod yn ceisio cyngor ariannol/cyfreithiol annibynnol cyn ymrwymo i drefniant taliadau gohiriedig.

Oherwydd eu hamgylchiadau ariannol, gallai'r cynllun fod yn llai addas i rai pobl, efallai oherwydd y budd-daliadau maent yn eu derbyn neu oblygiadau treth. Mae'n bwysig hefyd eich bod yn deall yn llwyr oblygiadau cyfreithiol y cytundeb rhyngoch chi a'r cyngor.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.

Tîm Incwm ac Arian Gofal Cymdeithasol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau manwl am eich asesiad ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol, neu os hoffech herio'r ffïoedd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2024